werthu i'r Eglwys Sefydledig. Mewn rhyw anghydwelediad yn Siloam, Llanelli, tua'r flwyddyn 1843, ymneillduodd nifer o'r aelodau a dechreuasant achos yn nes i fynu rhyngddynt a'r Brynmawr, a rhoddwyd galwad i Mr. William Griffith, o Cerrigcadarn, i fod yn weinidog iddynt. Yn nechreu y flwyddyn 1849, ychydig cyn marw Mr. D. Stephenson, cynygiodd nifer o bersonau aflonydd yn cael eu blaenori gan bregethwr cynorthwyol oedd yn y lle, godi eweryl yn Rehoboth trwy ddwyn cyhuddiad yn erbyn un, neu rai o'r aelodau; ac wedi methu yn eu hamcan, yn hytrach na chydnabod eu bai, ciliasant o Rehoboth a derbyniwyd hwy yn Bethania, Pwll-y-cwn; a than eu dylanwad hwy y daeth Mr. Griffiths a'r cyfeillion yn Bethania i godi capel newydd ar Brynmawr, yr hwn a alwyd Bethesda. Dadfeiliodd yr achos yn Bethania yn fuan, oblegid fod y rhai cryfaf a galluocaf oedd yno wedi symud i Bethesda, a'r diwedd fu gwerthu y capel fel y crybwyllasom. Er mai Mr. W. Griffiths oedd yn gweinidogaethu yn Bethania yn yr adeg yr adeiladwyd Bethesda, etto cyn ei agoriad yr oedd ef wedi rhoddi y weinidogaeth i fynu, a thori pob cysylltiad a hwy. Nid oeddynt ond ychydig o rifedi pan ddechreuwyd yn Bethesda, a'r capel dan faich o 700p. o ddyled; ac heblaw eu bod yn ychydig, yr oedd amryw o honynt, yn enwedig y rhai a aethant allan o Rehoboth, yn gwbl anghymwys at ddechreu achos newydd.
Yn fuan wedi agoriad y capel, rhoddwyd galwad i Mr. William Williams, Talgarth, i ddyfod yn weinidog iddynt, yr hwn a fuasai am flynyddoedd yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond a ymadawsai a hwynt oblegid rhyw gamddealldwriaeth. Bu Mr. Williams yma am yn agos i chwe' blynedd, ac yn y cyfamser, bu yn ddiwyd a llafurus, ac yn llwyddianus yn enwedig i dalu cyfran o'r ddyled ymaith. Wedi ymadawiad Mr. Williams i Abercwmboi, dadfeiliodd yr achos yma yn fawr, fel y gwelodd y cyfeillion yn y lle fod cario yr achos yn mlaen yn faich rhy drwm iddynt. Nid oeddynt ond 35 o aelodau. Dan yr amgylchiadau yma, cynygiasant eu hunain i Mr. W. Jenkins, gweinidog Rehoboth, ac ar ol ymgynghori a'r eglwys, hysbysodd Mr. Jenkins hwynt mai gwell fuasai iddynt oll ddyfod i Rehoboth, ac i nifer o eglwys Rehoboth fyned allan gyda hwy, a'u hadgorphori yn eglwys yn Bethesda. Wedi ystyried y mater, penderfynwyd ar hyny, a daeth 25 o honynt i Rehoboth, ond safodd y gweddill allan. Gollyngwyd y 25 hyny drachefn yn nghyd a 75 o aelodau eraill Rehoboth allan i ddechreu o newydd yn Bethesda, ac yn 1861, corpholwyd y 100 yn eglwys Annibynol gan Mr. Jenkins a Mr. Rees (Cendl y pryd hwnw); a bu yr eglwys yn Bethesda am flwyddyn dan ofal Mr. Jenkins mewn cysylltiad a Rehoboth. Yn 1862, rhoddwyd galwad i Mr. J. M. Jones, Cwmbran, a bu yma am yn agos i chwe' blynedd. Cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth yn enwedig, ac ychwanegwyd rhai ugeiniau at yr eglwys tra bu yma. Gorfu i lawer symud oddiyma o herwydd sefyllfa isel y gweithfeydd, a chollwyd yn mysg y rhai a ymadawsant lawer o ddynion gweithgar. Wedi ymadawiad Mr. Jones, bu yr eglwys yn ymddibynu ar wasanaeth gweinidogion dyeithr, ond yn 1869, rhoddwyd galwad i Mr. William Morgan, aelod gwreiddiol o Libanus, ger Aberhonddu, a myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mai 4ydd a'r 5ed.
Mae Mr. Morgan er y daeth yma wedi bod yn ymroddgar iawn, ac ar y cyfan yn dra llwyddianus. Nid oes odid fis wedi myned heibio nad oes