tadaeth, neu waddol sydd genyf i'w adael i chwi. Yr wyf yn deisyf arnoch, ac yn gorchymyn i chwi, nid yn unig eu cadw, ond hefyd eu darllen ddydd a nos, ac hefyd cyn darllen, ac wrth ac ar ol darllen, byddwch daer mewn gweddi a myfyrdod am fodd i ddeall a gwneyd ewyllys eich Duw. O garchar cyfyng, gyda llawer o ddagrau, etto, mewn mwynhad o lawer o lawenydd yn yr Ysbryd Glan, y 10fed dydd, o'r pedwerydd mis hwn, Ebrill, 1593, eich tad tylawd, yma ar y ddaear yn bryderus iawn am gael ail uno a chwi mewn cymdeithas dragywyddol yn nheyrnas Iesu Grist.
JOHN PENRY.
Tyst eiddil yn y byd hwn dros hawliau Iesu Grist, ac yn erbyn ffieidddra y Babel Rufeinig."
Yn ei lythyr at Arglwydd Burleigh, yr hwn a ysgrifenodd saith niwrnod cyn ei ddienyddiad, dywed, "Yr wyf yn diolch i Dduw, pa bryd bynag y daw terfyn i'm dyddiau, ac nid wyf yn disgwyl y caf fyw hyd ddiwedd yr wythnos hon, y bydd fy niniweidrwydd mor amlwg, fel y byddaf farw yn un o ddeiliaid ffyddlonaf y Frenhines Elizabeth, ie, yn nghyfrif fy ngwrthwynebwyr, os byddant yn wyddfodol, ac yr wyf yn hyderu y gallaf trwy fy marwolaeth eu hargyhoeddi hwy ger bron yr holl fyd, fy mod wedi byw felly hefyd. Ac yr wyf yn gobeithio y pair fy Nuw ryw ddiwrnod i'm diniweidrwydd ddysgleirio fel hanerdydd ger bron fy ngrasol Frenhines ei hun. Dyn ieuangc tlawd ydwyf fi, wedi fy ngeni a'm dwyn i fyny ar fynyddoedd Cymru. Myfi yw y cyntaf, ar ol yr adfywiad diweddaf ar yr efengyl yn yr oes hon, a lafuriodd i gael ei had bendigedig wedi ei hau yn y mynyddoedd diffrwyth hyny. Yr wyf lawer gwaith wedi llawenychu ger born Duw, fel y mae Efe yn gwybod, am fy mod wedi cael y fraint o fod wedi fy ngeni a byw dan lywodraeth ei Mawrhydi, er dwyn yn mlaen y gwaith hwn. Yn angerdd yr awydd oedd ynof am weled yr efengyl yn ngwlad. fy ngenedigaeth, a'r llygredigaethau gwrthwynebol iddi wedi eu symud, gallaswn ddyweyd, fel y gwnaethum yn fy ysgrifeniadau argraffedig, yr un fath a Hegetorides y Thruciad, fy mod yn anghofio fy mherygl fy hun o gariad at fy ngwlad, ond ni ddarfu i mi erioed anghofio fy nheyrngarwch i'm Brenhines. Ac yn awr, pan yr wyf i gael diwedd fy nyddiau, cyn cyrhaedd haner y blynyddoedd a allaswn gael wrth gwrs cyffredin natur, yr wyf yn gadael llwyddiant fy llafur i'r cyfryw o'm cydwladwyr ag a gyfodo yr Arglwydd ar fy ol i gwblhau y gwaith o alw fy ngwlad i wybodaeth o efengyl fendigedig Crist, a ddechreuwyd genyf fi."
Fel hyn y bu fyw ae y bu farw y gwr a gyfododd yr Arglwydd i arloesi y ffordd o flaen Ymneillduaeth Cymru. Bu ei enw da am oesau yn cael ei dduo a'i enllibio gan haneswyr rhagfarnllyd ac anwybodus, ond bellach mae llwch a llysnafedd enllib yn cael eu golchi ymaith oddi arno, a'i gy- meriad glân, fel seren oleu yn mysg y Diwygwyr Protestanaidd, yn dysgleirio. Bu ei lofruddiad of yn un ddolen bwysig yn nghadwyn y dygwyddiadau a arweiniasant i ddymchweliad awdurdod yr esgobion, a sefydliad rhyddid crefyddol gan y Senedd yn amser Siarl I. Cafodd holl dechreu