fynu. Bu amryw o'r gweinidogion a aethant yn gyfrifol am y ddyled mewn helbul mawr. Yn Mehefin 1846, ail gychwynwyd y gweithiau, a dychwelodd amryw o'r aelodau i'r lle, ond buont am dymor yn addoli yn Saron, Penycae. Ar y Sul cyntaf o'r flwyddyn 1847, ail agorwyd y capel, ac ail gychwynwyd achos yn y lle. Pregethodd Mr. B. James, gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, y Sul cyntaf, a'r ail Sul pregethodd Mr. Jeffreys, Penycae, a gweinyddodd Swpper yr Arglwydd yno. eglwys fechan am yn agos i bedair blynedd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Yn 1850, rhoddasant alwad i Mr. John Hughes, aelod o'r eglwys yn Rehoboth, Brynmawr, ac urddwyd ef Mehefin 13eg y flwyddyn hono. Dwy flynedd a haner y bu Mr. Hughes yn llafurio yma, ac yn yr yspaid hwnw ychwanegwyd llawer at yr eglwys. Rhif yr aelodau pan roddodd ef eu gofal i fynu oedd 70. Yn Gorphenaf 1852, daeth D. S. Lewis, Ysw., i fyw i'r lle, ac ymroddodd a'i holl egni i gyfodi yr achos o'i iselder, a llwyddodd i raddau dymunol iawn. Adgyweiriwyd y capel dan ei arolygiad a thrwy ei gymmorth ef, a llwyddwyd, trwy ei lafur diattal ef, i ysgafnhau baich y ddyled. Costiodd ei gysylltiad a'r achos yn Victoria amryw ganoedd o bunau i Mr. Lewis, ond aeth trwy yr holl lafur a'r draul yn siriol ac heb rwgnach dim. Yn awr y mae yr achos wedi ei gyfodi i sefyllfa obeithiol, ond gellir dyweyd mai mewn amseroedd blinion yr adeiladwyd y mur yn y lle hwn. Bu yr eglwys oddiar ymadawiad Mr. Hughes yn 1853, yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd y flwyddyn 1867, pryd y cymerwyd eu gofal gan Mr. R. Parry, Graig Fechan, sir Ddinbych. Y mae efe yn parhau yn y weinidogaeth yn y lle hyd yn bresenol, ac yr ydym yn hyderu y bydd yma yn ddefnyddiol am nifer o flynyddau etto.
Cyn belled ag y gwyddom ni, Daniel Phillips, genedigol o Lanelli, sir Gaerfyrddin, yw yr unig un a ddechreuodd bregethu yn yr eglwys hon. Dechreuodd bregethu yn 1847, ac yn y flwyddyn ganlynol, ymfudodd i'r America. Bu am rai blynyddau dan addysg yn un o golegau y wlad hono. Dywedir ei fod yn ddyn ieuangc galluog iawn, Nis gwyddom ychwaneg o'i hanes.
TRIFIL.
Pentref bychan, neu nifer o dai gwasgaredig yn mhlwyf Llangynidr ydyw y Trifil. Saif ar derfyn sir Frycheiniog, rhwng Tredegar a'r Gogledd. Mae yma gloddfa cerig calch helaeth at wasanaeth y gweithfeydd; ac ar hyny yn benaf yr ymddibyna yr ardalwyr am eu bywioliaeth. Er mai yn sir Frycheiniog y mae y lle yn ddaearyddol, etto y mae wedi bod bob amser mewn cysylltiad crefyddol a sir Fynwy. Yr oedd amryw o'r ardal yma yn cyrchu i Dredegar i addoli, ac yn aelodau o Saron, ac er cyfleustra iddynt hwy, adeiladwyd yno yn 1830, gapel bychan, yn benaf trwy lafur Mr. H. Jones, y gweinidog ar y pryd yn Saron. Nid oeddynt ond ychydig o rifedi, ond yr oeddynt yn rhai ffyddlawn a diwyd; a bu gofal y lle am y blynyddau cyntaf ar Mr. Jones, yr hwn a gyrchai yma yn gyson a rheolaidd. Wedi i Mr. Jones roddi y lle i fyny, cymerwyd at y lle gan Mr. W. Watkins, mewn cysylltiad a Seion, Rhymni, hyd y flwyddyn 1841, pan y cymerwyd eu gofal gan Mr. J. Prothero, Llangynidr. Er fod gan Mr. Prothero ffordd faith i ddyfod atynt, etto anaml y