Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/265

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

frodorion gyda llygad eiddigus ar y newydd—ddyfodiaid hyn, y rhai a ddygent eu dyeithr gynlluniau i'w plith. Hyd yr ydym wedi sylwi, yr ydym yn cael mai yr eglwysi gadwyd lwyraf oddiwrth gymysg bobl sydd wedi bod yn fwyaf unol a thangnefeddus trwy holl gyfnod eu hanes; er nad hwynt hwy bob amser sydd wedi bod yn fwyaf egniol i helaethu terfynau yr achos.

Blinwyd nifer o eglwysi y sir i raddau gofidus mewn un cyfnod yn eu hanes gan gwerylon ac ymrysonau; ac mewn rhai engreifftiau, torodd hyny allan yn ymraniadau. Cydgyfarfyddodd amryw bethau i achosi hyny. Bu ysbryd Siartiaeth yn gryf iawn yn sir Fynwy, yn arbenig, ryw ddeuddeg neu bymtheg mlynedd ar hugain yn ol. Nid yw yn perthyn i ni yma roddi ein barn ar y pwyntiau dros y rhai y dadleuent; ond y mae yn sicr fod dull y dygent eu cyffroad yn mlaen, a'r moddion gorfodol a ddefnyddid ganddynt, wedi effeithio yn andwyol ar gysur a heddwch llawer o'r eglwysi. Yr oedd rhai o'r aelodau eglwysig yn Siartiaid eithafol, ac yn cario gyda hwy i'r eglwysi yr ysbryd hyf, diofn, a dibarch i swyddogaeth ac awdurdod oedd yn hynodi Siartiaeth y dyddiau hyny; a llawer nad oeddynt yn Siartiaid proffesedig wedi cyfranogi o'u hysbryd. Cariwyd yr ysbryd gwerinol sydd wedi ei fwriadu mewn Annibyniaeth i fod yn amddiffyn i'r aelodau, i'r fath eithafion nes peryglu eu heddwch ac yspeilio eu cysur yn hollol; a dadleuai llawer dros ryddid i bob dyn "i wneyd yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun." Blynyddoedd tymhestlog oedd y blynyddoedd hyny. Siglwyd yr eglwysi gan mwyaf i'w sylfeini—gwanychwyd eu nerth i weinyddu dysgyblaeth—rhoddwyd cyfle i ddynion hyfion a siaradus ymwthio i'r golwg—sychwyd i fyny deimlad crefyddol, ac ireidd-dra ysbryd y dynion goreu—ymddangosai y gweinidogion yn fwy fel gwylwyr ar y tyrau yn sefyll er eu hamddiffyn, nag fel hedd-negeswyr yn myned allan dros eu Duw i gynyg heddwch i wrthryfelwyr—a chollwyd dros dymor lawer iawn o'r anwyldeb serchiadol hwnw rhwng gweinidogion a'u pobl sydd yn hanfodol i gysur a defnyddioldeb.

Nid ydym yn sicr i bawb o'r gweinidogion ymddwyn yn y modd doethaf dan yr amgylchiadau. Gwyddom yn eithaf da fod yn haws i ni yn awr wedi i bethau fyned heibio weled pa le a pha fodd y camgymerwyd, nag a fuasai gweithredu yn briodol pe buasem yn yr amgylchiadau; ond gan y dichon i eraill etto gael eu harwain i amgylchiadau cyffelyb, bydd gweled pa le y camsyniodd y rhai a fu o'r blaen yn help iddynt hwythau i ochel y