Yr oedd y Senedd yn 1641, wedi awdurdodi Meistri Walter Cradock, Henry Walter, David Walter, ac eraill, i fyned oddiamgylch i bregethu, cnd gan i'r rhyfel dori allan yn lled fuan wedi hyny, ni chawsant nemawr o gyfleusdra i hyny. Ond wedi dychwelyd, ar derfyniad y rhyfel yn 1646, aethant allan yn ysbryd a nerth yr Apostolion, i bregethu ar hyd a lled y wlad. Heblaw Cradock, V. Powell, y ddau Walter, Richard, Symmonds, Ambrose Mostyn, a rhai gweinidogion urddedig eraill. Cafodd tuag ugain o aelodau yr eglwysi yn Llanfaches a Mynyddislwyn eu hanfon allan fel pregethwyr lleyg, heb un math o urdd Esgobol na Phresbyteraidd. Gorchymynodd y Senedd i bob un o honynt gael dwy-bunt-ar-bymtheg yn y flwyddyn at eu cynaliaeth, yr hyn, y pryd hwnw oedd yn gyfwerth i tua chan punt yn awr. Gwelsom fod y merthyr Penry tua thriugain mlynedd cyn hyn wedi awgrymu mai un ffordd tuag at efengyleiddio Cymru, oedd anfon allan ddynion duwiol, er heb urddau, i bregethu yn deithiol, ac yn awr wele gynllun y merthyr yn cael ei fabwysiadu, ac yn troi allan yn effeithiol. Darfu i'r "Senedd hir" yn fuan ar ol ei hagoriad, gymeryd yr eglwys a'i chamdrefniadau gwaradwyddus dan sylw. Penododd amryw bwyllgorau i edrych i mewn i sefyllfa pethau. Un oedd Pwyllgor y gweinidogion gwaradwyddus, amcan yr hwn oedd troi allan offeiriaid anfoesol, didalent, ac esgeulus, o'u bywioliaethau, a gosod cynnifer o rai cymhwys a allesid gael yn eu lleoedd, a phan nas gallesid cael digon o bersonau addas i lenwi y lleoedd gweigion, gosodid amryw bregethwyr poblogaidd i deithio o fan i fan, fel y gallasai pob plwyf gael o leiaf un bregeth bob wythnos. neu bythefnos. Pwyllgor arall oedd Pwyllgor y gweinidogion ysbeiliedig, amcan pa un oedd adferu y gweinidogion Puritanaidd a droisid allan o'u by wioliaethau gan Laud a'i gydoeswyr, ac edrych fod y colledion oeddynt wedi ddyoddef yn cael eu gwneyd i fyny. Ni chafodd un o'r pwyllgorau hyn nemawr o fantais i wneyd dim er lles y Cymru, hyd ar ol gorchfygiad plaid y Brenhin yn 1646, am fod corph y genedl hyd hyny, dan arweiniad y gwyr mawr a'r offeiriaid, yn rhyfela dros y Brenhin, ac yn erbyn y Senedd. Ar ol 1646, gweithiasant yn effeithiol yn y Dywysogaeth. Mae yn ymddangos i'r Pwyllgor hwn yn y blynyddoedd 1646-48, droi allan ychydig o offeiriaid nodedig o anfoesol neu anghymwys o'u bywioliaethau yn Nghymru. Chwefror 22ain, 1650, pasiwyd gweithred gan y Senedd, a elwid Gweithred er gwell taeniad o'r efengyl yn Nghymru, ac er diwygiad rhyw bethau afreolaidd. Dan y weithred hon yr oedd triugain ac un-ar-ddeg o ddirprwywyr i droi allan weinidogion anghymwys o'r eglwysi, i drafod a meddianau eglwysig, ac i osod personau cymhwys yn lle y rhai a droisid allan. Y mae y weithred hefyd yn enwi pump-ar-hugain o weinidogion, gwaith y rhai oedd cymeradwyo i'r dirprwywyr bregethwyr cymhwys i'w rhoddi yn y bywioliaethau gweigion, neu i'w hanfon allan fel teithwyr. Mae ysgrifenwyr Esgobyddol yn yr oes hono, ac yn mhob oes ddilynol, wedi trin y weithred hon, a'i gweinyddwyr, yn ddiarbed, ac yn son am dani fel ymosodiad erlidgar yr Anghydffurfwyr ar yr Eglwyswyr,
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/28
Gwedd