Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/298

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MEMORIAL STONE.

"This Protestant Chapel was rebuilt in the year of our Lord 1717. Being the 172nd
year since the reformation, the 29th since the revolution, and the 4th year of the reign
of King George. Uno avulso, non deficit alter."

Ni wnaed hyny gan y Llywodraeth oblegid na allasai y gynnulleidfa ei godi ei hun; ond oblegid fod yn gyfiawn i'r Llywodraeth a oddefodd i'r werin ddireol ei dynu i lawr, i fyned i'r draul i'w ail adeiladu. Yn ol y cyfrif a gasglwyd gan Dr. John Evans yn 1715 o nifer a sefyllfa gymdeithasol cynnulleidfaoedd Cymru, yr oedd 110 yn gyffredin yn bresenol cydrhwng Llanfyllin a'r Pantmawr o'r rhai yr oedd 10 yn foneddigion, 1 tirfeddianwr, 5 yn meddu pleidleisiau dros y sir, a 9 yn meddu pleidleisiau dros y bwrdeisdrefi. Llafuriodd Mr. Jervice yma hyd 1743, pryd y rhoddodd angeu derfyn ar ei fywyd defnyddiol, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanfyllin.

Dilynwyd Mr. Jervice gan wr ieuangc o'r enw Thomas Evans. Nis gwyddom ddim o'i hanes, na pha cyhyd y bu yma; ond cyfarfu ag angeu mewn modd gofidus yn mlodeu ei ddyddiau. Fel yr oedd yn ceisio croesi yr afon Efyrnwy wrth fyned i neu ddyfod o'r Pantmawr, a'r afon ar y pryd yn genllif, profodd y dwfr yn rhy gryf iddo, cariwyd ef gan y llif, a boddodd; ond cafwyd gafael ar ei gorff, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Meifod; ond nid oes cymaint a chareg arw a "dwy lythyren" arni i ddynodi lle ei fedd.

Daeth Mr. Jenkin Jenkins yma ar ol hyny. Nid ydym yn sicr pa bryd y daeth yma, ond yr oedd yma yn 1751, a bu yma o leiaf hyd 1759, oblegid yr ydym yn ei gael dros y blynyddau hyny yn derbyn o Drysorfa y Presbyteriaid fel gweinidog Llanfyllin. Ymadawodd i Gaerfyrddin, lle y dewiswyd ef yn athraw yr athrofa yno, a graddiwyd ef gan ryw Brifysgol â'r teitl o D.D. Dilynwyd ef gan Mr. Benjamin Radcliffe. Yr oedd ef yma yn 1762. Symudodd oddi yma i Congleton, yn sir Gaerloyw. Ar ei ol ef bu Mr. Benjamin Rees yma. Yr oedd yma yn 1766, a symudodd i Leominster, yn sir Henffordd. Wedi ymadawiad Mr. Rees, daeth Mr. James Evans yma, ond byr iawn fu yspaid ei arosiad yntau yma. Yr oedd yma yn 1769, ond ymadawodd, ac nis gwyddom i ba le. Cyfnod "tywyll du" oedd hi ar yr achos yn ystod tymor y pedwar gweinidog yma. Yr oeddynt ill pedwar yn Arminiaid neu yn Ariaid, os nad yn rhywbeth pellach; ac yr oedd anadl eu gweinidogaeth wedi sychu i fyny bob gronyn o deimlad crefyddol yn yr eglwys; ac yr oedd yr achos wedi disgyn mor isel am yspaid o amser ar ol ymadawiad yr olaf o'r pedwar fel nad agorid drws y capel ond unwaith yn y mis, pan y pregethai Mr. Goronwy, o'r Bala, ar ei ffordd i'r Pantmawr. Yr oedd un o deulu y Pantmawr, o'r enw Mrs. Sale, wedi gadael cymunrodd o 5p. y flwyddyn i weinidog Llanfyllin am bregethu yno unwaith yn y mis; ac yr oedd agor y drws i'r oedfa yn un o amodau y cytundeb â phob tenant a gymerai y ffarm. Cafwyd llawer o garedigrwydd oddiar law y rhan fwyaf o'r tenantiaid; ond bu yno un John Wynn yn dal y lle am 20 mlynedd, ac nid oedd dim cydymdeimlad rhyngddo â'r efengyl, na rhwng neb o'i deulu. Nis gallasent atal yr addoliad, ond gwnaent bob peth yn eu gallu i daflu anhawsder i'w ffordd. Dygent yn mlaen orchwylion y ty pan y byddai y pregethwr wrthi yn pregethu. Clywid un yn nyddu yn un ystafell, ac eraill yn corddi mewn ystafell arall, fel mai gorchest fawr oedd i'r pregethwr