cyhoeddwyd yr holl Fibl, tua chwe' mil o gopïau, ac argraffiad o'r Testament Newydd ar ei ben ei hun, yn yr un flwyddyn, gan Mr. Cradock, a Mr. V. Powell.
Un enwad, sef Annibynwyr, oedd holl Ymneillduwyr Cymru hyd 1649, pryd y darfu i Mr. John Myles a Thomas Proud gasglu a chorpholi eglwys o Fedyddwyr yn Ilston, gerllaw Abertawy. Ymdaenodd yr enwad hwn yn fuan trwy ranau o siroedd Morganwg, Caerfyrddin, Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, Aberteifi, a Phenfro, a pharodd ei gyfodiad gryn lawer o gyffro a dadleuon poethion ar fedydd mewn gwahanol ardaloedd, ac nid oes un ddadl na fu y dadleuon hyn am dymor yn rhwystr mawr i efengyleiddiad y wlad. Cyn pen dwy flynedd ar ol cyfodiad y Bedyddwyr, gwnaeth trydydd enwad o Ymneillduwyr ei ymddangosiad yn Nghymru, sef y Crynwyr. Darfu iddynt hwythau yn fuan, fel y Bedyddwyr, luosogi yn fawr, ac achlysuro dadleuon poethion. Ond er yr ychydig derfysg a achlysurwyd gan gyfodiad yr enwadau newyddion yn amser y werinlywodraeth, etto, aeth y gwaith o daenu yr efengyl yn mlaen yn llwyddianus hyd farwolaeth Oliver Cromwell. Yn fuan wedi hyny, cafodd Siarl II. ei ddewis yn frenhin, a chyda ei ddyfodiad i'r Orsedd, adferwyd Esgobyddiaeth i fod yn Grefydd Wladol, ac adferwyd erlidigaeth ffyrnig gyda hi. Yn ystod y pedair-blynedd-ar-ddeg o ryddid a fwynhawyd o 1646 hyd adferiad Siarl II., gwnaed gwaith gogoneddus yn Nghymru, ac ystyried yr amrywiol anfanteision dan ba rai yr oedd y pregethwyr yn llafurio. Hauwyd yn y tymor hwnw gymaint o hadau gwybodaeth ac egwyddorion crefyddol, fel nas gallodd holl ffyrnigrwydd yr erledigaethau yn y blynyddoedd dyfodol eu difetha, ac y mae yr had a hauwyd y pryd hwnw yn parhau i ddwyn ffrwyth hyd y dydd hwn. Cyn gynted ag yr esgynodd Siarl i'r Orsedd, ac yn wir, rai dyddiau cyn hyny, dechreuwyd erlid yr Ymneillduwyr yn Nghymru, ac adferu yr offeiriaid a droisid allan gan weinyddwyr y cyfreithiau yn y blynyddoedd blaenorol. Cafodd pob pregethwr a feddianai fywioliaeth y cyfryw oedd yn fyw o'r offeiriaid hyny, eu troi allan yn haf 1660, ond cafodd y rhai a weinyddent mewn plwyf nad oedd y meddianwyr blaenorol yn fyw, gadw eu lleoedd hyd nes i Ddeddf Unffurfiaeth ddyfod i rym yn 1662. Yna cafodd pob un na chydymffurfiai a'r ddeddf hono, ei droi allan a'i drin yn ddidrugaredd.
Yr oedd Deddf Unffurfiaeth yn gofyn i bob un er cael hawl i weinyddu fel gweinidog yn yr Eglwys Sefydledig i gymeryd urddau esgobol, os oedd heb yr urddau hyny yn flaenorol, ac ardystio ei gydsyniad a phob peth a gynwysai y Llyfr Gweddi Cyffredin, fel pethau cyson a Gair Duw. A'r argraffiad newydd o'r Llyfr Gweddi Cyffredin y gofynid y cydsyniad hwn, ac yr oedd canoedd o bregethwyr yn y cyrau pellaf o'r deyrnas nad oedd yn bosibl iddynt gael golwg ar y llyfr y gofynid eu cydsyniad ag ef cyn gwneyd yr ardystiad, am mai ychydig ddyddiau cyn fod yn rhaid iddynt oll gydffurfio yr oedd y llyfr wedi dyfod allan o'r wasg. Darfu i ganoedd o ddynion digydwybod ardystio eu cydsyniad heb weled y llyfr o