chodi achos yn ei erbyn, a chywilyddiwyd hwy gan ei atteb parod, fel y rhoddasant ei ryddid iddo.
Yn 1784, dewisodd yr eglwys yn unfrydol Mr. Jenkin Lewis, myfyriwr yn Athrofa Croesoswallt, yn fugail arnynt; a neillduwyd ef i'r weinidog- aeth ar y Sulgwyn, 1785. Nid oedd dim yn amgylchiadau allanol yr eglwys a'r gymydogaeth yn gymhelliad i Mr. Lewis ymsefydlu yn eu plith. Nid oedd ond deg o aelodau yn perthyn iddi, a darfu i bump o'r deg yn fuan droi eu cefnau ac ymadael, ac fel yr ydym eisioes wedi dangos yr oedd gan drigolion y dref a'r ardal y gelyniaeth mwyaf i'r efengyl. Teimlodd Mr. Lewis yn dra buan wedi cymeryd gofal yr eglwys, fod trig- olion y dref a'r wlad oddiamgylch, ac eithrio ryw ychydig nifer, yn elynion penderfynol yn erbyn yr efengyl a'r rhai a'i cyhoeddai. Amlygodd un John Hughes a'i wraig, y rhai oeddynt yn byw oddeutu milldir o'r dref, eu hawydd i gael eu derbyn yn aelodau yn ei gapel, a thalodd Mr. Lewis ymweliad a hwynt un prydnawn er cael cyfle i ymddyddan a hwy. Gwelwyd ef gan yr erlidwyr ffyrnig, a dilynasant ef. Amgylchynasant yty, torasant i mewn iddo, triniasant y teulu yn y modd mwyaf cywilyddus, llusgasant y gweinidog parchus allan wrth wallt ei ben gan ei guro a'i droedio yn y modd creulonaf, a thebyg y buasent ei yn ei ladd cyn i'r gymydogaeth gael ei rhybuddio, oni buasai i flaenor y gâd gael ei dyneru yn dra sydyn, ac mewn munud gorfyddodd y lleill i ymattal oddiwrth y gwaith erchyll. Fel hyn yr arbedwyd bywyd y dyn da hwn, ond nid heb glwyfau peryglus.
Barnodd Mr. Lewis a'r ychydig grefyddwyr ei bod yn llawn bryd bellach cael amddiffyniad y gyfraith i ddyogelu ei fywyd ei hun a'i gyfeillion rhag ymosodiadau cyffelyb rhagllaw. Appeliodd gan hyny am gymorth oddiwrth y gymdeithas a ffurfiasid yn Llundain, i amddiffyn rhyddid a hawliau yr Ymneillduwyr. Cymerodd y gymdeithas y mater mewn llaw, a bu raid i'r erlidwyr ymddangos ger bron Llys yr Ynadon. Eglurwyd y gyfraith iddynt, a dangoswyd eu bod trwy dorri i mewni dy John Hughes, a'r niwed a wnaethant i'r naill a'r llall, yn agored i gosp lem oddiwrth y gyfraith. Yr oedd eu harswyd erbyn hyn yn annesgrif- iadwy. Tosturiodd Mr. Lewis wrthynt, a dymunodd ar i'r Llys beidio rhoddi y gyfraith mewn grym, gan y byddai ef a'i gyfeillion yn foddlawn i'w rhyddhau os cydsynient i arwyddo cyffes ysgrifenedig o'u hedifeirwch am eu trosedd. Gwnaethant hyny gyda'r parodrwydd mwyaf. Dyma sylwedd yr hyn a arwyddasant:—
"Yr ydym ni, y rhai y mae ein henwau isod, gyda galar chwerw yn cyffesu mewn llys agored ein trosedd yn erbyn John Hughes ac Elizabeth ei wraig, ac yn erbyn y Parchedig Jenkin Lewis; ac am y niwed a dderbyniasant oddiar ein dwylaw, yn ddifrifol yn erfyn eu maddeuant. Dymunem hefyd amlygu ein diolchgarwch iddynt hwy, ac i'r Gymdeithas er Amddiffyn Rhyddid a Hawliau yr Ymneillduwyr, am arfer eu dylanwad er attal gweinyddiad llymaf y gyfraith yn ein herbyn am ein trosedd, ac yr ydym yn ymrwymo i ymddwyn yn heddychol a chyfeillgar tuag attynt o hyn allan. Arwyddwyd Medi 22ain, 1787."
Trwy yr amgylchiad yma argyhoeddwyd pobl anwybodus y dref a'r amgylchoedd fod gan yr Ymneillduwyr nid yn unig hawl foesol i oaddoli, ond fod cyfraith y wlad o'u plaid, ac na faidd neb ymosod arnynt heb osod en hun trwy hyny yn agored i gosp cyfraith y tir. Ennillodd Mr. Lewis a'i gyfeillion trwy yr ymddygiad hynaws, boneddigaidd, ac annialgar yma