us, yr hwn oedd yn berthynas lled agos i Mr. Owen o ochr ei fam ac yn dad bedydd iddo, o'r enw Mr. Howell. Ymwelai yn aml ag ef, a threuliai gryn lawer o'i amser yn ei gyfeillach. Arferai Mr. Howell bob rhesymau a moddion i'w ennill i'r Eglwys, ond aeth y cwbl yn ofer. Yma y gwelwn ei ymlyniad wrth Ymneillduaeth gryfaf. Nid oedd ond dyn jeuange prin ugain mlwydd oed, a gallasai trwy ei gydnabyddiaeth a'i berthynas a Mr. Howell yn gystal a thrwy ei alluoedd naturiol ei hun gael safle anrhydeddus yn Eglwys Sefydledig y wlad, ond dewisodd Mr. Owen yr Ymneillduwyr am ei fod wedi ystyried y mater yn ddifrifol yn ngwyneb Gair Duw, ac ni siglwyd ef gan hudoliaethau ei gyfaill, na'r olwg ar yr iselder a'r digalondid a ymddangosai o'i flaen yn y mesur lleiaf.
Dechreuodd bregethu yn Abertawe, fel cynorthwywr i Mr. Stephen Hughes. Yn fuan tynodd ei alluoedd anghyffredin sylw neillduol, a dechreuwyd cyngreirio yn ei erbyn gan y Llys Eglwysig. Oddeutu yr adeg yma gwnaeth Mr. Henry Maurice sylw mawr o hono, a chan ei fod yn gweled fod erlidiau a charcharau yn ei aros, anogodd ef yn daer i fyned i ogledd Cymru. Ond yr oedd yn boddloni Mr. Hughes mor dda, fel yr oedd yn anhawdd iawn ganddo ganiatau iddo fyned ymaith. Ar yr adeg yma dywed Mr. H. am dano, ei fod yn ŵr ieuangc gwerthfawr a duwiol, o ymarweddiad sanctaidd a nefolaidd, ac o ddawn rhagorol i bregethu. Pan gyrhaeddodd Mr. Owen ogledd Cymru cymerodd ei drigfan yn Bodwell, ger Pwllheli. Bu ei weinidogaeth yn y cylch yma yn gymeradwy iawn, ond rhoddwyd terfyn ar ei ddefnyddioldeb yn mhen naw mis trwy gynddaredd yr erlidwyr fel y bu raid ei anfon o hyd nos i Bronyclydwr, sir Feirionydd, cartref yr Hybarch Hugh Owen. Yn mis Tachwedd 1676, cafodd alwad i Swiney, gerllaw Crocsoswallt, lle y bu byw mewn parch mawr fel Caplan i Mrs. Baker o'r lle hwnw—boneddiges o barch a duwioldeb mawr ac yr oedd hefyd yn pregethu i gynnulleidfa o bobl ddifrifol yn ac oddiamgylch Croesos wallt, y rhai oeddynt wedi mwynhau llafur y clodfawr Robert Nevett yr hwn a fu farw Rhagfyr, 1675. Wedi bod yn pregethu yno am yspaid ar brawf, neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn mis Hydref, 1677, a rhoddwyd y dystiolaeth anrhydeddus ganlynol iddo gan y gweinidogion oeddynt yn bresenol, "Ei fod yn ddyn ieuangc o gymhwysderau mawrion i waith y weinidogaeth, a'u bod yn credu y byddai yn offeryn rhagorol i daenu yr efengyl, ac i ddyrchafu teyrnas Iesu Grist, a gwneyd lles i eneidiau." Cyflawnwyd y dystiolaeth i'r llythyren. Wedi ei neillduad dyblodd ei ddiwydrwydd yn ngwaith ei Feistr, ond gwnaed ymosodiadau ffyrnig arno o bob cyfeiriad gan erlidwyr dialgar y dyddiau hyny. Rhoddwn engraifft neillduol o hyn:—Yr oedd Mr. Owen ar un tro yn myned o Gaerlleon i bregethu i'r Treuddyn, yn sir Fflint, a chan ei fod yn ddieithr, ymofynodd am y ffordd mewn ty tafarn, lle y digwyddodd fod cwmni o foneddigion yn yfed. Clywodd un o honynt Mr. Owen yn gofyn am y ffordd, ac aeth allan ato, a gofynodd iddo at bwy yr oedd yn ewyllysio myned. Wedi cael attebiad, dywedodd y gwr boneddig yn fwynaidd a charedig ei fod yn adnabyddus a'r gwr, ei fod yn gyfaill neillduol iddo, a dododd Mr. Owen ar y ffordd i fyned i'w dy. Aeth Mr. Owen rhagddo, a thranoeth aeth i bregethu i dy un Thomas Fenner, yn mhlwyf Hope, tua dwy filldir o Treuddyn. Dychwelodd y gwr boneddig at ei gyfeillion, a chan eu bod wedi clywed fod cyfarfod anghyfreithlawn i fod yn y gymydogaeth hono y dydd canlynol,