roddent i'w bregethau ryw wedd glasurol. Cyn diwedd y bregeth, byddai ganddo fynychaf ryw floedd uchel; ac er nad ydoedd yn beroriaethus, etto yr oedd rhywbeth yn effeithiol ynddi, gan ei bod yn dyfod yn lled sydyn, ac yn enwedig oblegid y byddai ei deimladau ei hun erbyn hyny wedi eu cyffroi.
Yr oedd yn ddyn o deimladau llednais, yn gwbl foesgar a boneddigaidd tuag at bawb, a rhyw allu nodedig ganddo ar yr un pryd i gadw pawb rhag gwneyd yn rhy hyf arno. Bu am dymor yn cymeryd rhan yn ngolygiaeth yr Annibynwr, ac wedi hyny yn ngolygiaeth y Dysgedydd a'r Annibynwr wedi eu huno, a phob amser gwnai yn ffyddlon y rhan o'r gwaith a fyddai yn disgyn arno. Ymgymerodd a bod yn oruchwyliwr i Gymdeithas Rhyddhad Crefydd yn ngogledd Cymru, ac yr oedd wedi astudio y cwestiwn yn drwyadl; ond profodd teithio i'w gwasanaethu yn rhy galed i'w natur. Yr oedd yn Anghydffurfiwr trwyadl; o ran hyny, yr oedd gyda phob peth yn wastad y peth y proffesai fod; a phan y credai fod gwirionedd a chydwybod yn galw arno i gymeryd rhyw lwybr neillduol, ni phetrusai ei rodio. Bu yn gwaelu am gryn amser, a gwnaeth brawf ar bob peth y gallesid meddwl am dano er mwyn cael iachad; ond er y cwbl, angeu a orfu, a symudwyd ef ymaith yn nghanol ei obeithion a'i gynlluniau, ac yn nghanol ei lwyddiant a'i ddefnyddioldeb.
Priododd Medi 9fed, 1859, â Miss Mary Evans, ail ferch y diweddar Mr. Rowland Evans, o'r Morben, gerllaw Machynlleth, yr hon a fu iddo yn ymgeledd gymhwys, a'r hon a adawodd ar ei ol yn weddw, gyda dau blentyn yn amddifaid. Cyflawned yr Arglwydd iddynt eu holl ddymuniadau."
MACHYNLLETH.
Mae y dref hon o ran ei safiad yn nghanolbarth y Dywysogaeth, ac ar y brif dramwyffordd rhwng y Gogledd a'r Deheudir. Gallesid disgwyl oblegid hyny fod crefydd wedi cael gafael yn foreu ar y lle, wrth fod y diwygwyr cyntaf yn teithio yn ol ac yn mlaen, ac yn neillduol gan fod genym sicrwydd fod rhai o bregethwyr yr eilfed ganrif ar bymtheg wedi ymweled a'r lle; ond dirmygus fu gair yr Arglwydd gan y trigolion. Dywedir i Mr. Morgan Llwyd, o Wynedd, gael ei atal i bregethu yma; ac yn ychwanegol at hyny, maeddwyd ef yn dost; ac y mae traddodiad iddo ddyweyd y byddai i'r efengyl adael y dref am amser hir, cyn y byddai i'r plant oedd yno yn chwareu ac yn dringo y coed ddyfod i oedran gwyr. Pa fodd bynag, y mae yn sicr i dymor maith fyned heibio cyn i'r efengyl yn ei phurdeb gael ei phregethu yma yn sefydlog. Triniwyd Mr. Howell Harries yma yn mhen can' mlynedd ar ol hyny yn chwerw iawn. Yn ddiweddarach, ymosodwyd ar Mr. Jones, Llangan, pan y safai ar ganol yr heol i bregethu, a tharawyd y Beibl o'i law gan gyfreithiwr a gyfrifid yn barchus. Lliniarwyd cynddaredd y cyfreithiwr hwnw yn erbyn yr efengyl trwy sylwi ar ymddygiad gweddus a thymer addfwyn geneth o forwyn oedd yn ei wasanaeth, yr hon a arferai gyrchu i'r cyfarfodydd. Daeth i benderfyniad nad oedd un drwg yn cael ei ddysgu a'i ddwyn yn mlaen yn y cyfarfodydd hyny, onide ni buasai yr eneth hono gymaint yn rhagorach nag un forwyn arall a fuasai yn ei wasanaeth.
Pan oedd Mr. Benjamin Evans, Llanuwchllyn, yn myned trwy y lle unwaith, ryw bryd ar ol y flwyddyn 1769, disgynodd mewn gwesty i gael