gan fod y gwyr mawr a chorph y boblogaeth yn Nghymru yn perthyn i'r blaid hono. Aethant ymaith yn ol y cynghor, a chawsant dderbyniad croesawus ac ymgeledd am dymhor yn Nghaerodor, a phan gymerwyd y ddinas hono gan filwyr y brenin aethant rhagddynt i Lundain, lle yr arosasant hyd derfyniad y rhyfel yn y flwyddyn 1646. Darfu i'r ychydig grefyddwyr a adawyd yn Nghymru ar ddechreu y rhyfel, cynwysedig gan mwyaf o ddynion oedranus, a gwragedd, a phlant, er eu holl beryglon a'u hanfanteision, ddal yn ffyddlon at eu hegwyddorion. Pan nad oedd ganddynt un pregethwr i'w haddysgu a'u blaenori, elent o dŷ i dy i ymddiddan a'u gilydd am grefydd, ac yn y modd hwnw ennillasant gannoedd o eneidiau at yr Arglwydd. Dywed Mr. Walter Cradock yn 1646 iddo, ar ei ddychweliad i Gymru, ar ol bod yn absenol am bedair blynedd, gael, er ei syndod a'i orfoledd, fod yr efengyl wedi "rhedeg fel tân mewn tô gwellt" dros y mynyddoedd rhwng Mynwy a Brycheiniog, a bod yno tuag wyth cant o ddynion duwiol yn ei harddel a'i thaenu yn egniol.
Pan ddychwelodd Mr. Cradock, Mr. Henry Walter, a Mr. Symmonds i Gymru yn 1646, cawsant eu hanfon allan gan y Senedd yn bregethwyr teithiol, ac felly ni ddarfu i un o honynt sefydlu fel gweinidog ar eglwys Llanfaches. Un Mr. Thomas Ewins oedd y gweinidog sefydlog cyntaf yno ar ol y rhyfel. Mae yn debygol mai Sais oedd y gwr hwn a afonasid i lawr o Lundain yn 1646 i gynnorthwyo yr efengylwyr Cymreig, a chan fod y rhan fwyaf o'r trigolion yn nghymydogaeth Llanfaches yn deall yr iaith Saesonig annogwyd ef i ymsefydlu yno fel gweinidog. Cafodd ei neillduo i'r swydd medd y Broad Mead Records "trwy ympryd a gweddi." Aeth ei glod allan yn fuan fel pregethwr grymus a dylanwadol, ac yn y flwyddyn 1651 tynwyd ef trwy daerni diball i symud i Gaerodor. Pan yn gweled nad. oedd yr eglwys yn Nghaerodor yn foddlon cymeryd pall, cydsyniodd pobl Llanfaches i roddi "ei fenthyg" iddynt, ond ni thalwyd byth mor benthyg yn ol. Gan fod amryw o aelodau ei eglwys yn Nghaerodor yn wrth-faban-fedyddwyr llwyddasant yn y flwyddyn 1654 i gael gan Mr. Ewins i gymeryd ei drochi, ac yna ni feddyliodd mwyach am ddychwelyd i Lanfaches. Bu farw yn Nghaerodor yn mis Chwefror, 1670.
O amser ei chorpholiad hyd derfyniad y rhyfel yn 1646, nid oedd gan yr eglwys un tŷ addoliad, fel y nodasom; ond o 1646 hyd 1660, yr oedd y llanau, neu yr eglwysi plwyfol, yn Llanfaches a'r plwyfydd cymydogaethol, yn hollol at wasanaeth ei haelodau a'i phregethwyr i ymgynnull iddynt pryd y mynent. Nid oedd Ymneillduwyr yr oes hono wedi dyfod yn ddigon goleuedig i wrthod cymorth y llywodraeth at dreuliau eu gwasanaeth crefyddol. Nid yn unig defnyddient addoldai y llywodraeth at addoli, ond derbyniai y gweinidogion dâl gan y llywodraeth am bregethu. Penodwyd y swm o gan' punt y flwyddyn gan y llywodraeth i Mr. Walter Cradock, Mr. Henry Walter, Mr. R. Symmonds, Mr. Vavassor Powell, ac eraill ar eu dychweliad i Gymru yn 1646 fel pregethwyr teithiol. Rhoddid symiau llai i eraill yn ol eu safle a'u talent. Dylid cofio hefyd fod can' punt y pryd hwnw yn gyfwerth a phedwar neu bum' cant o bunnau yn awr, os nad mwy. Byddai yn anngharedig i ni yn yr oes hon gondemnio dynion da yr oes hono am nad oeddynt wedi dyfod mor belled yn mlaen a ni yn eu syniadau am gysylltiad crefydd â'r llywodraeth. Rhyfeddwn ddaioni Duw yn agoryd eu llygaid i'r graddau y gwnaeth. Dichon y bydd pobl yn y flwyddyn 2070 yn synu ein bod ni yn awr mor belled yn ol yn ein barn a'n gwybodaeth am lawer o bethau.