Thomas Baddy yn Ninbych, yn 1693, deuai ef yn fisol i'r Bala. Dywedir y byddai yn nyddiau byrion y gauaf yn cadw y moddion ar hyd y dydd, a rhag ofn cynddaredd yr erlidwyr, elai i gysgu i le o'r enw Bodweni, rai milldiroedd o'r dref.[1] Mewn tai anedd yr arferent ymgynnull, a chan amlaf mewn tŷ a elwid y Store-house, wrth gefn Plasyndre. Pan ddaeth Mr. John Evans—hen bregethwr parchus gyda'r Methodistiaid—i'r Bala, 1742, at un Edward Williams, Gwehydd, un o hen Ymneillduwyr y Bala, y daeth i weithio, a llefara yn uchel am grefydd ei feistr—yr arferai addoli Duw yn ei deulu hwyr a boreu. Merch Morris ap Robert, un o hen aelodau yr Eglwys Ymneillduol yn y Bala, oedd Margaret, gwraig John Evans, wedi hyny. Saer coed wrth ei alwedigaeth oedd Morris ap Robert, ac yr oedd yn fardd o gryn enwogrwydd. Ceir nifer o'i ganiadau yn Mlodeugerdd Cymru; a chyfansoddodd gywydd i Lyn Tegid, yn yr hwn y cyffelyba donau'r llyn i dragwyddoldeb.[2] Nid oedd yr hen brydydd ond isel ei amgylchiadau, a byddai yn aml yn dywyll arno am angenrheidiau bywyd. Dywedir ei fod un boreu heb damaid o fwyd yn y tŷ, na modd i'w gael, ac yr oedd yr hen wraig wedi disgyn yn isel iawn ei meddwl; ond dywedai ef wrthi wrth gychwyn allan o'i dy i'w waith, "O paid ti a gofidio, fe ddaw." Ond nid oedd ei wraig yn gweled yr un sail i'w ffydd bwyso arni i gredu y deuai. Ond erbyn fod Morris ap Robert wedi dychwelyd yr hwyr, dyma yr hen wraig yn y drws yn ei gyfarch yn llawen, gan waeddi, "fe ddaeth, fe ddaeth.' "Fe ddaeth pwy?" meddai yntau, heb gofio, mewn munyd, at ba beth y cyfeiriai. "Ond yr angel—fe ddaeth ar gefn ceffyl gwyn, ac a roddodd i mi gini;" ac ni fynai hi ei hargyhoeddi nad yr Arglwydd a anfonasai ei angel a'r ymwared prydlawn yma iddi. Erbyn holi, cafodd yr hen brydydd allan mai Mr. Lewis Morris, o Fon, oedd wedi galw heibio, yr hwn oedd ar y pryd yn golygu y Tolldy yn Aberteifi, ac wedi clywed, ond odid, am galedi yr hen fardd. Un o'r hen Ymneillduwyr a feddyliodd gyntaf am gael oedfa yn Tynant yn agos i'r Rhiwlas, i wrthweithio dylanwad y noson ganu, fel ei gelwid, yn yr hon y dywedir fod Mr. Jenkin Morgan wedi pregethu dan arddeliad. neillduol. Yr oedd Mr. Jenkin Morgan yn aelod yn Watford, gerllaw Caerdydd. Aeth i gadw un o ysgolion cylchredol Madam Bevan, o dan arolygiad Mr. Griffith Jones, Llanddowror; pregethodd lawer o fan i fan yn y Gogledd, nes yr urddwyd ef yn Rhosymeirch, lle y llafuriodd am ugain mlynedd. Ond am yr oedfa y cyfeiriasom ati, dyma fel yr adroddir ei hanes gan Mr. John Evans, Bala. Yr oedd noswaith ganu, neu noswaith lawen yn cael ei chynal bob nos Sadwrn yn ysgubor Tynant. Gofidiai un o'r hen Ymneillduwyr yn fawr oblegid dylanwad drwg y fath lygredigaeth, a gwnaeth gais at wr y tŷ am genad i Mr. Jenkin Morgan gael pregethu yn y tŷ, ar yr un pryd ag y byddai y bobl ieuaingc yn yr ysgubor yn canu ac yn dawnsio. Cafwyd cenad, ac aeth Mr. Jenkin Morgan a'r hen Ymneillduwr tuag yno, ond yr oedd y bobl ieuaingc yno yn barod yn yr ysgubor, ac yn benderfynol i wneyd noson o honi, er llwyr foddi a dyrysu swn yr addoli. Ond rywfodd, nid oedd dim hwyl ar y chwareu y noson hono fel arfer, a daeth i feddwl un o honynt am fyned i'r tŷ, yr hwn oedd o dan yr un tô a'r ysgubor, i weled pa hwyl oedd ar bethau yno, ac erbyn hyny yr oedd y pregethwr wrthi a'i holl egni, a'i Dduw yn ei gynorthwyo yn amlwg iawn. Wrth weled y cyntaf yn aros
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/437
Gwedd