yn hanes cymanfa Zoar, Merthyr, yn niwedd Mehefin, 1798, ac yn Ebrill yn hanes cymanfa Zoar, Merthyr, yn niwedd Mehefin, 1798, ac yn Ebrill neu Mai y flwyddyn hono y symudodd Mr. Powell i Ferthyr. Nid ymddengysi Mr.Thomas symud o'i ardal enedigol i sir Fynwy pan ymgymerodd a gofal yr eglwys yn Carwhill, er fod ganddo dros ugain milldir i deithio tuag yno. Yr oedd yn beth cyffredin dri-ugain a phedwar-ugain mlynedd yn ol, fod gweinidogion yn Nghymru yn cyfaneddu bymtheg ag ugain milldir oddiwrth eu heglwysi. Hysbyswyd ni gan y diweddar Barch. David Thomas, Llanfaches, fod un William George wedi bod yn weinidog yno yn nechreu y ganrif bresenol, ac iddo symud oddi yno i Ross yn sir Henffordd. Mae yn rhaid mai cydweinidog a W. Thomas ydoedd, ac na fu yno ond am ychydig iawn o amser, canys cafodd Mr. James Williams ei urddo yno yn gynnorthwywr i Mr. Walter Thomas ar y 12fed o Fawrth, 1807. Yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol urddiad Mr. Williams rhoddodd Mr. Thomas ei swydd i fyny, a chymerodd ofal yr eglwys yn Llangynwyd, Morganwg. Bu Mr. Williams yn llafurio yn Llanfaches hyd 1817, ac ar yr 21ain o Fai yn y flwyddyn hono urddwyd Mr. J. Peregrine, o Athrofa Llanfyllin, yn ganlyniedydd iddo. Nis gwyddom pa cyhyd y bu Mr. Peregrine yno. Yn mhen ychydig iawn o flynyddau ymfudodd i America. Y gweinidog nesaf oedd Mr. James Griffiths, yr hwn a urddwyd yn y flwyddyn 1823. Bu ef yno am bum' mlynedd, yna symudodd i Loegr, ac yn 1828 cymerwyd gofal yr eglwys gan Mr. David Thomas, Nebo, yr hwn a barhaodd i lafurio yno gyda pharch a mesur o lwyddiant hyd ei farwolaeth yn mis Tachwedd, 1864. Y gweinidog presenol yw Mr. J. P. Jones. Y mae efe yn enedigol o ardal Penybont-ar-ogwy. Cafodd ei addysgu yn Athrofa Aberhonddu. Ar ei fynediad allan o'r Athrofa yn 1865, sefydlodd yn Heyhead, ger Manchester, ac yn 1867 symudodd i'w gylch presenol. Mae yn wr ieuangc galluog a llafurus, ac arwyddion gobeithiol am lwyddiant ar ei lafur yn yr hen faes cyssegredig hwn.
Yr ydym yn y tudalenau blaenorol wedi olrhain hanes y fam-eglwys. hon o'i ffurfiad yn mis Tachwedd, 1639 hyd fis Tachwedd, 1869. Yn y ddau cant a deng mlynedd ar hugain hyn, y mae wedi myned trwy lawer of helbulon a chyfnewidiadau. Bu ar un adeg, tua diwedd y ganrif diweddaf mae yn debygol, mor wan fel nad oedd ond un hen wraig yn cymuno gyda y gweinidog. Pan oedd pethau wedi myned i'r agwedd isel hono, digalonodd y gweinidog, a dywedodd wrth yr hen chwaer, ar ddiwedd un cyfarfod cymundeb, y buasai yn well iddynt roddi heibio weini yr ordinhad yn gyhoeddus, ac y buasai ef yn dyfod yn achlysurol i'w thỳ hi i roddi y cymundeb iddi. Torodd yr hen wraig i wylo, a deisyfodd arno beidio gwneyd hyny, o leiaf am iddo ei weini yn gyhoeddus un waith yn ychwaneg beth bynag. Mae yn debygol fod yr hen bererin duwiol wedi treulio y mis hwnw yn daerach nag erioed mewn gweddi am lwyddiant yr achos, a chafodd ei hateb. Yn mhen y mis, pan ddaeth y gweinidog i fyny o'r Casnewydd, cafodd, er ei gysur fod pump neu chwech yn dymuno cael eu haelodi yno. Ni bu yr achos byth o hyny allan mor isel.
Ar ol i'r gynnulleidfa fod yn ymgynnull yn Carwhill am amser maith—drwy yr oll o'r deunawfed ganrif, os nad oddiar 1688—cafwyd darn o dir gan Mr. Thomas Lewis, Llanfaches, i adeiladu y capel presenol, o fewn haner milldir i Carwhill, ac o fewn yr un pellder i eglwys Llanfaches. Mae y tir wedi ei roddi mewn gweithred ddiogel i'r enwad Annibynol dros 999 o flynyddoedd, am yr ardreth flynyddol o un bybyren os gofynir am dani. Dyddiad y weithred yw Tachwedd, 1802, ond y mae yn ymddangos