ysgwyd ef. Urddwyd ef yn y Brychgoed, Medi 28ain, 1752. Symudodd i Lanuwchllyn yn 1759, a bu yno hyd 1765, pryd y symudodd i Benybontarogwy. Bu yno bymtheng mlynedd, ac yn 1780, dychwelodd i'r Bala, lle y treuliodd weddill byr ei oes. Bu farw yn 1786, a chladdwyd ef yn Llanuwchllyn, lle yr oedd ei wraig wedi ei chladdu, yn Hydref, 1762, cyn ei symudiad i Benybontarogwy. Cyfansoddwyd "Cerdd o Alarnad" ar ol ei wraig, Mrs. Gwen Williams, gan un William Jones, ac argraffwyd hi yn y Bala gan un John Rowlands.[1] Derbyniwyd mab iddo, o'r enw David Williams, i athrofa Abergavenny, yn 1775, ac ymsefydlodd yn weinidog yn rhywle yn sir Gaerefrog. Dywedai y diweddar Mr. H. Lloyd, Towyn, rai blynyddau yn ol, wrth Mr. Simon Jones, Bala, iddo, pan yn casglu at gapel y Towyn yn y sir hono, tua'r flwyddyn 1820, weled mab i Mr. Evan Williams yn weinidog yn rhywle yn agos i Hull. Merch i Mr. E. Williams, hefyd, oedd ail wraig Mr. John Roberts, Llangwm, hen weinidog i'r Methodistiaid. Nid oes genym ddim yn ychwaneg o'i hanes, ond gallwn gasglu oddiwrth ei lythyrau ei fod wedi cael addysg dda, ac o olygiadau efengylaidd.
WILLIAM THOMAS. Ganwyd ef yn Awst, 1749. Amaethwyr cyfrifol oedd ei rieni. Yr oedd ei dad yn enedigol o sir Forganwg, a'i fam o sir Gaerfyrddin. Claddodd ei dad cyn ei fod yn ddeuddeg oed, ac ar ol hyny, symudodd ei fam i'w chymydogaeth ei hun, heb fod yn mhell o Lanymddyfri. Derbyniodd Mr. Thomas addysg dda pan yn fachgen, ac aeth i Lundain, lle yr oedd ganddo berthynasau, a chafodd le gyda masnachwr yn Longacre, a bu yno mewn parch ac ymddiried dros rai blynyddoedd. Er ei fod y pryd hwnw o ymarweddiad moesol diargyhoedd, etto, yr oedd yn gwbl ddyeithr i grefydd. Pan tua thair-ar-hugain oed, cafodd glefyd trwm yn Llundain, ac wedi gwella i raddau, aeth adref at ei fam. Eglwyswraig selog oedd ei fam, ond yr oedd adfywiad grymus ar y pryd mewn amryw o gynulleidfaoedd. Ymneillduol, a denwyd Mr. Thomas, o gywreinrwydd, i fyned i Grygybar i wrando Mr. Isaac Price, a bu yr oedfa hono yn oedfa i'w chofio iddo. Newidiwyd holl gynlluniau ei fywyd ar unwaith. Unodd a'r eglwys, ac aeth i Tŷ'nycoed, Cwmtawe, ac yno fel yr ymddengys y dechreuodd bregethu. Aeth i'r athrofa yn Abergavenny, lle yr arhosodd ddwy flynedd. Urddwyd ef yn Hanover, Hydref 2il, 1782. Nid arhosodd yno ond llai na phum' mlynedd, ac nid rhyw gysurus iawn y bu yno yn yr yspaid hwnw. Symudodd i'r Bala yn 1787, a llafuriodd yno am ddwy-flynedd-ar-hugain. Yr oedd yn ddyn o ddeall cryf, ac ysbryd penderfynol, a chyhuddid ef o fod yn rhy awyddus am y byd. Nis gwyddom a oedd sail i'r fath awgrymau. Yr oedd ei ofal am ei amgylchiadau, a'i ymdrech i gyfieithu a chyhoeddi llyfrau, yn ddigon o achlysur i ryw ddosbarth achwyn felly arno. ganddo ddeg o blant, ac yr oedd yn ofynol wrth gynnildeb mawr i ddarpar cynhaliaeth i deulu mor lluosog. Cyhoeddodd lawer o lyfrau, a gwnaeth yn dda, fel y tybir, ar amryw o honynt. Ond y gwaith mwyaf yr ymgymerodd ag ef oedd, cyfieithu a chyhoeddi Esboniad Dr. Guyse ar y Testament Newydd; ac oddiwrth hwnw y collodd fwyaf. Yn Nhrefecca y byddai yn argraffu ei holl lyfrau, ac yno y dechreuwyd argraffu Esboniad Dr. Guyse. Arferai Mr. Thomas brynu y papur ei hun, a'i anfon i Drefecca i'w weithio. Llawer o drafferth a gafodd gydag argraffwyr
- ↑ Llyfryddiaeth y Cymry. Tu dal. 465.