Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/461

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eidfaol, dyddiedig Gorphenaf 1af, 1778, dywedir ei fod wedi llafurio yno am flwyddyn er boddlonrwydd cyffredinol i'r holl eglwys. Mae y cais wedi ei arwyddo dros yr eglwys gan Robert Griffith, Robert Roberts, Rowland Jones, Robert Lloyd, a Cadwaladr Roberts, ac y mae Meistri John Griffith, Glandwr; Richard Tibbot, Llanbrynmair; Rees Harris, Pwllheli, ac Abraham Tibbot, o Fon, yn dwyn eu tystiolaeth yn galonog i gywirdeb cymeradwyaeth yr eglwys. Pregethwr melus, efengylaidd, fel yr ymddengys oedd Mr. Davies, ac anaml yr ymdriniai a phynciau dyrus a dadleugar. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol. Er prawf o hyny gellir dyweyd iddo gael gwahoddiad i fod yn gydathraw a Mr. R. Gentleman yn athrofa Caerfyrddin, ond o herwydd rhyw resymau gwrthododd gydsynio. Nid yw yn ei lythyr at reolwyr y Bwrdd Cynnulleidfaol yn dyweyd paham y gwrthododd, ond yn unig amlygu y ffaith, a mynegi ei benderfyniad i aros gyda'i gyfeillion yn Llanuwchllyn. Yr oedd gan Mr. Wynn, offeiriad Llanycil, yr hwn oedd yn ieithydd rhagorol, syniad uchel am Mr. Davies, ar gyfrif ei ddysgeidiaeth. Dywedir fod prawf pwysig yn y Bala unwaith, a bod rhyw hen ysgrif yn Lladin wedi ei dwyn ger bron, yr hon y methai y cyfreithwyr a gwneyd dim o honi, ond anfonwyd am Mr. Davies, yr hwn gyda rhwyddineb a fynegodd iddynt ei chynwysiad. Gadawodd ei lyfrgell ar ei ol i'r eglwys Annibynol yn Llanuwchllyn, ac er fod llawer o'r llyfrau trwy esgeulustra wedi myned i ddifancoll, etto y mae y rhai sydd wedi eu gadael ar ol yn dangos y rhaid fod Mr. Davies yn ŵr dysgedig. Ond nid fel ysgolhaig yn unig y rhagorai. Mae yr ychydig ddifyniadau a welsom o'i Ddyddlyfr yn dangos ei fod yn ddyn duwiolfrydig, ac yn byw mewn cymundeb agos a phethau ysbrydol. Ond byr fu ei dymor. Yr oedd hinsawdd Llanuwchllyn yn rhy lym i gyfansoddiad oedd yn eiddil yn naturiol, a bu farw Ebrill 28ain, 1781, yn 30 oed. Claddwyd ef yn mynwent eglwys y plwyf, yn yr un bedd a Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach. Yr oedd plate yn ddangosiad o hyny hyd yn ddiweddar ar fur yr eglwys, ond y mae yr arysgrifen erbyn hyn wedi gwisgo allan, ac nid oes neb yn fyw yn cofio gweled ei wyneb, ond y mae ei enw a'i goffadwriaeth er hyny yn aros yn barchus, a disgyna felly i'r oesau a ddel ar ol.

DINASMAWDDWY.

Yn niwedd y ddeunawfed ganrif, yr oedd Mawddwy yn gartref i'r anwybodaeth, yr ofergoelion, a'r campiau a ffynai mor gyffredinol yn Nghymru gynt; ac yn llawn o'r rhagfarn penrydd ac erlidgar yn erbyn pob peth fel crefydd, nad oedd dan nawdd person y plwyf, a hynodai Ogledd Cymru yn hir wedi i'r Deheu ddyfod i oddef a derbyn Ymneillduaeth. Maeddwyd un pregethwr mor greulon yn Llanymawddwy, fel y bu raid iddo gyflogi rhyw ddyn i fyned ag ef yn ddiogel dros Fwlchygroes i'r Bala.[1] Aeth Mr. Lewis Rees o Lanbrynmair trwy Fawddwy i Lanuwchllyn, a'i fywyd megis yn ei law lawer gwaith. Yn y fan y deuai son fod y pregethwr yn dyfod, elai yn gynwrf trwy yr holl le. Gadawai y gof yr efail, taflai y crydd yr esgid heibio, gollyngai y teiliwr y dilledyn o'i law, brysiai y merched allan o'u tai, gan roddi pob gorchwyl o'r neilldu; a gwelwyd hyd yn nod ar adeg frysiog y cynhauaf, y llafur-

  1. Drych yr Amseroedd. Tu dal. 123.