Middleton fu y prif offeryn yn llaw y gelyn i ymlid yr efengylwr enwog o Wrexham. Un diwrnod yr oedd Middleton yn galw gyda thafarnwyr y dref i geisio gwerthu brag iddynt. Pan yn methu gwerthu cymaint ag arfer gofynai iun tafarnwr paham na chymerai yr un faint ag a arferai gymeryd o frag, i'r hyn yr attebodd y tafarnwr, "Pa ddyben i mi brynu brag, pan nas gallaf gael y bobl i yfed y cwrw? Y mae un Walter Cradock, o'r Deheudir, wedi dyfod yma yn gurad, ac y mae yn pregethu y bobl wrth y cannoedd o'r tafarnau i'r eglwys." "Os dyna sydd yn drygu ein masnach ebe y bragwr," mi a symudaf y rhwystr yna o'r ffordd yn fuan." Gan ei fod yn berthynas i rai o wyr mawr yr ardal cafodd gymmorth eu dylanwad i osod rhyw fath o achwyniad yn erbyn Mr. Cradock, yn llys esgob Llanelwy, a chafwyd swyddogion o'r llys hwnw i ddyfod drosodd i Wrexham i'w ddal a'i gymeryd i'r carchar. Clywodd cyfeillion Mr. Cradock eu bod yn chwilio am dano, a chynnorthwyasant ef i ddianc yn y nos. Cyrhaeddodd erbyn y bore i'r Amwythig, lle yr oedd ei gyfaill, Richard Symmonds, yn cadw ysgol, ac yn mysg ei ysgolheigion yr oedd Richard Baxter. Arosodd yno ddiwrnod neu ddau cyn myned yn mhellach i'r Deheudir. Er na fu Mr. Cradock yn Ngwrexham dros naw mis neu flwyddyn, bu yn offeryn i wneyd gwaith yno, ac yn y wlad oddi amgylch, ag y mae ei effeithiau yn aros hyd y dydd hwn. Yn ystod ei arosiad yno y bu yn offerynol i ennill y pregethwyr enwog, Morgan Lloyd a Dafydd ap Hugh a channoedd gyda hwy. Cymaint fu effaith ei weinidogaeth yn Ngwrexham fel mai Cradogiaid y gelwid dynion crefyddol yn y Gogledd am oesau wedi hyny. I weinidogaeth Walter Cradock yn Ngwrexham yr ydym i briodoli dechreuad Ymneillduaeth yn Ngogledd Cymru.
Wedi gorfod ymadael o Wrexham, cafodd dderbyniad ac ymgeledd yn mhalas Syr Robert Harley, o Brampton Briars, yn Llanfair Waterdine, ar gyffiniau siroedd Maesyfed a Henffordd. Yr oedd Syr Robert yn gyfaill calon i'r Puritaniaid, a bu ei hiliogaeth am ddwy neu dair cenhedlaeth yn garedig iawn i'r Ymneillduwyr. Arosodd Mr. Cradock yno am dair neu bedair blynedd, ond ni bu yn segur na diffrwyth, canys yr ydym yn cael iddo yn yr amser hwnw deithio llawer yn siroedd Maesyfed, Maldwyn, Brycheiniog, ac Aberteifi, ac iddo fod yn foddion i ennill eneidiau lawer at yr Arglwydd. Mae yn lled sicr mai trwy ei lafur ef, tra y bu yn aros yn Brampton Briars, yr hauwyd hadau Ymneillduaeth a chrefydd efengylaidd yn ardaloedd Llanfyllin, Llanbrynmair, Rhaiadr, Llanafan, Llanwrtyd, &c.
Erbyn diwedd y flwyddyn 1639, yr oedd Mr. Cradock wedi dychwelyd i sir Fynwy, lle y bu yn cynnorthwyo Mr. Wroth i gasglu a ffurfio yr eglwys yn Llanfaches. Cafodd y pryd hwnw ei benodi yn gynnorthwywri Mr. Wroth, ac ar farwolaeth y gwr da, dewiswyd ef yn ganlyniedydd iddo, ond ni chafodd lonyddwch yno am fwy na dau neu dri mis ar ol marwolaeth Mr. Wroth. Ar doriad y rhyfel allan tua Gorphenaf neu Awst, 1642, fel y crybwyllasom yn barod, darfu iddo ef a llawer o aelodau ei eglwys ffoi i Gaerodor, yn y nos, rhag iddynt gael eu lladd, neu eu gorfodi fyned i fyddin y brenin. Bu raid iddynt drachefn ffoi oddi yno i Lundain pan ennillwyd dinas Caerodor gan blaid y brenin yn y flwyddyn 1643. Cafodd Mr. Cradock, wedi iddo gyrhaedd Llundain, ei osod yn weinidog yn eglwys All Hallows the Great, ac ymunodd y bobl a'i dilynasant o Gaerodor a'r gynnulleidfa yno. Bu yn pregethu yn yr eglwys hono i luaws o wrandawyr hyd Hydref y flwyddyn 1646, pryd yr anfonwyd ef gan y