Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/491

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

apelio at y Charity Commissioners, cafwyd cenad i'w werthu, ar yr amod fod yr arian a geid am dano i fyned i dalu am y capel newydd, ac yr oedd pawb yn foddlawn i hyny, oblegid er mwyn cael yr arian i dalu am y capel newydd y gwerthid ef. Nid ystyrid yn gyfiawn i'r arian a geid am dano i fyned at ddim ond rhywbeth cydnaws a golygiadau y rhai a aeth i'r draul i'w adeiladu a thalu am dano.

Mae yma lawer o hen bobl ddeallgar a chrefyddol wedi bod yn nglyn a'r achos. Evan James, y cylchwr, oedd yn hen grefyddwr nodedig. Cyrifid ef yn gristion tawel, didwyll, ac yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Meurig Ebrill, oedd un o aelodau cyntaf yr eglwys yma, ac a fu fyw i oedran teg. Yr oedd yn ddyn deallus, ac yn fardd rhagorol. Henry Miles, oedd ŵr da a ffyddlon, a gair da iddo gan y rhai a'i hadwaenai oreu. Lewis Pugh, a fu yma am flynyddau lawer yn gefn mawr i'r achos, ac yr oedd mewn amgylchiadau bydol y gallasai wneyd llawer drosto. Bu ef a Mrs. Pugh yn groesawgar a llettygar i'r achos am flynyddau lawer. Mrs. Anwyl hefyd, oedd un o'r gwragedd y cofir am dani gyda hiraeth gan y rhai a ymwelent a'r lle gynt. Nid oes o'r tô cyntaf yn aros yma ond Evan Jones, Tŷ'rcapel, ac y mae yntau yn llesg a methiedig; ond y mae hiliogaeth rhai o'r rhai fu yn wyr enwog yma gynt, yn aros etto, ac yn dilyn llwybrau eu tadau.

Codwyd amryw bregethwyr yn yr eglwys hon, ac o'r cyfryw yr ydym yn sicr o'r rhai canlynol:—

Owen Owens. Urddwyd ef yn Rhesycae, lle y treuliodd ei oes, a daw ei hanes yno dan ein sylw.

Evan Evans. Urddwyd ef yn Abermaw, ac y mae yn awr yn Llangollen. Mae ei enw yn ddigon hysbys yn eglwysi yr enwad yn Nghymru.

Thomas Davies. Nid fel pregethwr yn gymaint yr hynododd ei hun, ag fel apostol yr Ysgol Sabbothol. Ganwyd ef Ebrill 15fed, 1777, yn Green, Castellmoch, plwyf Llanrhaiadr-yn-mochnant. Treuliodd lawer o flynyddoedd boreu ei oes yn Lloegr, a chan ei fod yn meddu athrylith gelfyddydol gref yn naturiol, rhoddodd gweled tipyn o'r byd fantais iddi i ymddadblygu. Gwnaeth a'i law ei hun rai peirianau tra chywrain, a daeth i Ddolgellau i ddechreu, gyda bwriad o osod un o'r dyfeision cywrain mewn ymarferiad, ond aflwyddianus fu yn ei gynygion, a bu raid iddo dalu costau y methiant. Ond pan yma y dygwyd ef i adnabod ei gyflwr fel pechadur, a hyny trwy weinidogaeth Mr. Pugh, o'r Brithdir, a derbyniwyd ef yn aelod o'r gangen a ymgyfarfyddai yn ol fel y byddai cyfleustra yn y Cutiau a Llanelltyd. Yr oedd yn ddyn o wybodaeth eang ac o feddwl grymus, a chyflwynodd agos ei holl lafur i wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Credai ef y gallesid gwneyd y sefydliad gwerthfawr hwnw yn llawer mwy effeithiol er cyrhaedd yr amcanion mewn golwg, a gwnaeth ei oreu yn mhob ffordd a farnai ef yn gyfaddas er cael hyny oddiamgylch. Cyhoeddodd Hyfforddwr ymarferol yr Ysgol Sul. Argraffodd werth 100p. o'r llyfr, a hysbysodd y buasai y cwbl a geid oddiwrtho yn cael ei roddi i drysorfa y Gymdeithas genhadol. Aeth ar daith trwy holl Gymru i gymell ei lyfr, ac i roddi engreifftiau o'r dull a gymeradwyai efe i sylw yr ysgolion. Gosodai bawb i ddarllen o atalnod i atalnod, a gwnai hyny yn y teuluoedd lle y llettyai, ac yn yr Ysgolion Sabbothol. Effeithiodd ei ymweliad er daioni mewn llawer o fanau. Cauai ei lygaid, wrth wrando y dosbarthiadau yn darllen, ond yr oedd ei glustiau yn agored fel na ddiangai yr un camgymeriad a wneid heb ei