gweinidog a'r eglwys. Ei destyn oedd, 1 Cor. iv. 1, 2, "Felly cyfrifed dyn nyni megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. Am ben hyn yr ydys yn disgwyl mewn goruchwyliwr, gael un yn ffyddlon." Edrychai ar y geiriau fel darlun o'r peth y dylai y gweinidog fod, a'r cyfrif parchus a ddylasai yr eglwys wneyd o hono fel y cyfryw. Llafuriodd Mr. Williams yma yn ddiwyd am ddeng mlynedd. Bu yn Llundain yn casglu at gapel Bethania, a chasglodd gan' gini. Gwelodd y capel cyntaf yn rhydd o ddyled, ac wedi ei lenwi a gwrandawyr, fel y bu raid ei helaethu. Yr oedd Mr. Williams yn ŵr hynod barchus yma, er na chyfrifid ef yn bregethwr rhagorol, etto trwy ei ffyddlondeb a'i fuchedd dda, llwyddodd i roddi cychwyniad effeithiol i'r achos. Rhagorai yn fawr yn ei fedrusrwydd i holi yn yr ysgol, a llwyddodd trwy hyny i sefydlu yma Ysgol Sabbothol lewyrchus. Yn nechreu y flwyddyn 1831, symudodd i Lansilin, lle yr arosodd hyd ddechreu 1840, pan yr ymfudodd i America, ac yno y bu farw, fel y gwelir yn ein cofnodiad bywgraphyddol o hono yn nglyn a Llansilin. Wedi ei ymadawiad ef, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Davies, Pentraeth, Mon. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn hynaws a charedig, yn siriol a diddichell, ac yn meddu dawn rhwydd a llais peraidd; ond nid oedd ond egwan ei alluoedd, a chyfyng ei wybodaeth, ac heb gael nemawr ddim manteision addysg yn moreu ei oes. Torodd diwygiad grymus allan yn fuan ar ol dyfodiad Mr. Davies i'r lle, a rhoddodd hyny fywyd a nerth newydd i'r achos. Yn y cyfnod hwn, cododd amryw ddynion ieuaingc selog a gweithgar yn yr eglwys, a daeth dylanwad yr achos er daioni i gael ei deimlo yn y lle. Yn yr adeg yma y dechreuodd Mr. Evan Griffith bregethu, a chyn hir dilynwyd ef gan Mr. William Edwards, ac yn fuan ar ol hyny gan Mr. John Isaac, a bu arosiad hir y ddau olaf, yn arbenig, yn yr ardal, yn gynorthwy mawr i'r achos. Fel yr oedd y lle yn cynyddu, a'r bobl ieuaingc yn dyfod yn fwy deallgar a myfyrgar, teimlai Mr. Davies ei hun nad oedd yn ateb i'r lle. Er hyny, bu yn ddefnyddiol a llwyddianus yma am yspaid, a choffeir gyda pharch gan amryw yn y lle hyd heddyw am ei lafurus gariad. Ymadawodd yn y flwyddyn 1839, ac wedi bod mewn amryw fanau, yn Arfon a Mon, aeth i fyw i Bodffordd, a gwasanaethai yn mha le bynag y byddai bwleh i'w lanw, hyd nes y rhoddodd angau ei law arno. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Davies, torodd diwygiad grymus iawn allan yn yr eglwys, yr hyn a fu yn foddion i luosogi ei rhif, ac ychwanegu ei chryfder. Er fod yr eglwys yn amddifad o weinidog, etto, yr oedd presenoldeb y ddau ŵr ieuangc gweithgar a diflino, Meistri W. Edwards, a J. Isaac, yn gaffaeliad gwerthfawr i'r achos ar y pryd. Yn ngwres y diwygiad yma aeth yr eglwys yn nghyd a chodi capel newydd helaeth, a throwyd yr hen gapel yn dai-anedd. Cafwyd tir drachefn ar ystad Tanymanod, a bu y personau canlynol yn mysg y rhai mwyaf blaenllaw gyda chodiad y capel newydd, sef Ellis Edwards, Penrhos; Lewis Thomas, Siop; Lewis Thomas, Frondirion; Pierce Jones, Penygelli; Hugh Williams, Fronlas, a David Jones, Cwmorthin. Bu y ddyled yn gwasgu drwm am dymor, ond trwy ddyfal barhad, cafwyd gwared llwyr o honi; ac y mae yr eglwys yn fwy dyledus am hyny i fedrusrwydd a ffyddlondeb y diweddar Mr. David Williams, Cwmbywydd, nag un dyn arall.
Yn y flwyddyn 1843, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Robert Fairclough, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mai y 3ydd a'r 4ydd, 1843. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Morgan,