ethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Llanuwchllyn; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Lloyd, Towyn; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. P. Griffith, Pwllheli, ac i'r eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau. Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri E. Griffith, Llanegryn; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Williams, Aberhosan; H Morgan, Sammah; J. Howes, Machynlleth; H. James, Brithdir; W. Davies, Talybont, ac eraill. Yr oedd brwdfrydedd yr eglwys wedi oeri pan ddaeth ef yma, fel y cafodd dymor lled galed yn nechreu ei weinidogaeth, ond gwelodd radd o lwyddiant cyn ei ddiwedd. Bu yn dra ymdrechgar, a llwyddodd i lwyr symud y ddyled oedd ar y capel. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw Awst 3ydd, 1852, yn 37 oed. Yn nechreu y flwyddyn ganlynol, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. David Evans, aelod o Hermon, Conwil, sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 17eg, 1853. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin; holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Lloyd, Towyn; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. W. Davies, Machynlleth; pregethodd Mr. H. Lloyd, Towyn, i'r gweinidog, a Mr. H. Morgan, Sammah, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Owen, Llanegryn; E. Hughes, Penmain; I. Thomas, Towyn, ac O. Thomas, Talybont.[1] Ni bu Mr. Evans yma ond tua dwy flynedd, canys dychwelodd i sir Gaerfyrddin, ac er nad oes gofal gweinidogaethol arno, mae yn pregethu lle y gelwir am dano, ac yn aelod yn Siloam, Pontargothi. Bu yr eglwys yma am yn agos i ddeng mlynedd, wedi ymadawiad Mr. Evans, heb sefydlu ar weinidog. Am rai blynyddoedd byddai Mr. S. Edwards, Machynlleth, neu Mr. I. Thomas, Towyn, yn gofalu am y cymundeb yma, a bu eu gweinidogaeth yn dra bendithiol, yn enwedig yn y blynyddoedd 1858 a 1859, pryd yr ymwelodd yr Arglwydd a'r eglwys hon, fel y rhan fwyaf o eglwysi ein gwlad, a diwygiad nerthol, a dywed un o ddynion craffaf yr eglwys wrthym, mai y diwygiad mwyaf bendithiol a welodd yn ei oes ydoedd, yn enwedig yn ei ddylanwad ar grefyddwyr llesg a gweiniaid. Gwnaeth lawer o honynt yn well dynion dros eu hoes. Yn gynar yn y flwyddyn 1865, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. William Perkins, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 13eg a'r 14eg, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. Josiah Jones, Machynlleth; holwyd y gweinidog gan Mr. D. Price, Aberdare; offrymwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Edwards, Machynlleth; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Lewis, Henllan, ac i'r eglwys gan Mr. J. Jones, Machynlleth. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth y dydd gan Meistri D. Rees, Talybont; I. Thomas, Towyn; R. Ellis, Brithdir; W. Rees, Corris, ac R. P. Jones, Llanegryn.[2] Mae Mr. Perkins yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad mawr. Adeiledir yma yn awr gapel newydd hardd yn y fan lle y safai yr hen gapel. Rhoddwyd y gareg sylfaen ilawr Gorphenaf 12fed, 1870. Mae yn ddwy droedfedd a deugain a chwe moedfedd o hyd, ac yn ddeuddeg troedfedd ar hugain o led, yn cynwys eisteddleoedd i bedwar cant. Bernir na bydd y draul erbyn ei orphen yn ddim llai nag 1100p. Mae Mr. Morris Davies, un o ddiaconiaid yr eglwys wedi rhoddi y tir yn rhad, gwerth 107p., ac yn addaw 50p. mewn arian heblaw hyny. Mae golwg addawus ar yr achos yma yn ei holl ranau.