yr hwn oedd wedi bod am lawer o flynyddau yn weinidog yn Beaumaris, i fod yn weinidog i'r eglwys hon a'r eglwysi yn Llandrillo a Chynwyd. Cynaliwyd cyfarfod ei sefydliad, ac agoriad y capel newydd yr un pryd, sef Ebrill 12fed a'r 13eg, 1842; a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Pugh, Mostyn; T. Ellis, Llangwm; D. Morgan, Llanfyllin; J. Parry, Wern; D. Price, Rhos; W. Thomas, Dwygyfylchi; A. Jones, Bangor; T. Griffith, Rhydlydan; W. Roberts, Llanrhaiadr; W. Rees, Dinbych; S. Jones, Maentwrog; D. Griffith, Ruabon; H. Ellis, Llangwm, a J. Griffith, Rhydywernen.[1] Bu Mr Evans yma dros rai blynyddoedd, ac yna dychwelodd i Beaumaris, lle y treuliodd weddill ei oes. Yn y flwyddyn 1850, derbyniodd Mr Humphrey Ellis, Llangwm, alwad gan yr eglwys yma, a dechreuodd ei weinidogaeth Hydref 6ed, y flwyddyn hono, ac wedi llafurio yn ddiwyd, a chyda gradd o lwyddiant am bymtheng mlynedd, rhoddodd yr eglwysi yn Nghorwen a Chynwyd i fyny, oblegid fod cylch y weinidogaeth yn rhy eang iddo allu gofalu am dano i gyd. Rhoddodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Nghynwyd, alwad Mr John Lewis, myfyriwr o athrofa y Bala, i fod yn weinidog iddynt, ac urddwyd Gorphenaf 26ain, 1865. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Peter, Bala; holwyd y gofyniadau gan Mr I. Davies, Ruthin; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr R. Williams, Bethesda; pregethodd Mr M. D. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr H. Ellis, (eu cynweinidog,) i'r eglwysi. Bu Mr Lewis yma yn ymdrechgar hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Gymreig yn Birmingham, ac hyd yma y mae y ddeadell hon heb fugail i fwrw golwg drosti.
Heblaw y personau a grybwyllwyd eisioes, bu yma eraill yn ffyddlon gyda'r achos, llawer o ba rai a hunasant, ond y mae yma rai etto yn aros. Bu teuluoedd Penlan a'r Harp, yn gefn mawr i'r achos am flynyddau, a dangosodd Mr. J. Prichard ofal mawr, nid yn unig am y capel, ond am yr achos yn ei holl ranau; a chyda'r Ysgol Sabbothol, anaml y gwelwyd ei ragorach. Mae Joseph Jones, yr aelod cyntaf a dderbyniwyd yma'i yn aros etto, ac yn ddiacon ffyddlon, a Robert Owen, Tanycelyn, yn gydswyddog ag ef, yr hwn a dderbyniwyd yn aelod yn 1840, ac a ddewiswyd yn ddiacon yn fuan wedi hyny, ac y mae yn parhau yn flaenllaw gyda'r achos yn ei holl ranau.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
ROBERT JONES. Nid oes genym ond ychydig o'i hanes i'w roddi. Yr oedd yn enedigol o Lanfwrog, yn Sir Fon, ac yn frawd i Thomas Jones, Amlwch, a Rees Jones, dau bregethwr pur adnabyddus yn eu tymor yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Cyfieithodd Thomas Jones lawer o lyfrau yn ei oes, ac efe a gyfieithodd Esboniad Scott. Yr oedd Rees Jones yn fwy poblogaidd fel pregethwr, a bu am ysbaid yn gweinidogaethu yn nghapeli Arglwyddes Barham, yn Browyr, Morganwg, lle y bu farw yn nghanol ei ddyddiau. Nis gwyddom pa fodd, nac yn mha le, y daeth Mr. Robert Jones i gysylltiad a'r Annibynwyr, ond treuliodd lawer o flynyddoedd yn Lloegr, ac yno, fel y tybiwn, y dechreuodd bregethu. Lled ddiddawn ydoedd fel pregethwr, ond yr oedd yn ddyn gwybodus, ac wedi bod yn cadw ysgol mewn amryw fanau. Daeth i Gorwen yn nechreu y flwyddyn 1840, ac
- ↑ Dysgedydd, 1842. Tu dal. 189.