a Mr. T. Davies, Llandrillo, ond bu cyfundeb y sir yn dra chefnogol i'r amcan, a rhoddodd athrawon a myfyrwyr athrofa y Bala help effeithiol er sefydlu achos yn y lle. Cafwyd tir at adeiladu gan y Milwriad Tottenham, am 14p. Cynlluniwyd y capel gan Mr. S. Evans, Llandegle, a chostiodd yr adeilad 400p. Mae wedi ei gyflwyno i John Jones, Robert Ellis, Humphrey Ellis, Michael D. Jones, John Lewis, Samuel Evans, John Peter, Thomas Davies, Hugh Jones, Robert Evans, Robert Jones, a Hugh Eastick, fel ymddiriedolwyr. Agorwyd y capel Mai 27ain, 1869, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Thomas, Bangor; E. Evans, Caernarfon; M. D. Jones, Bala; J. Rowlands, Rhos, ac eraill. Nid oedd yma ond ugain o aelodau pan ffurfiwyd yr eglwys gan Mr. Lewis, Corwen, ond y mae yn myned rhagddi yn raddol, a baich y ddyled agos oll wedi ei symud. Mae y lle heb weinidog er ymadawiad Mr. Lewis i Birmingham, ond y mae y gweinidogion cylchynol, a myfyrwyr y Bala yn barod bob amser i gynorthwyo yr achos yma. Y mae agoriad y chwareli yn y gymydogaeth yn argoeli yn ffafriol i ddyfodol y lle hwn.[1][2]
ADOLYGIAD AR HANES Y SIR
Wrth edrych dros hanes sir Feirionydd, gwelir fod ynddi naw a deugain o eglwysi Annibynol, heblaw deg o gapeli bychain eraill, lle y cynhelir Ysgolion Sabbothol, ac y pregethir yn lled reolaidd. Mae Ymneillduaeth yn y sir hon yn gallu olrhain ei hanes yn ol hyd yn agos i ganol yr eilfed-ganrif-ar-bymtheg. Gŵr genedigol o'r sir hon oedd Morgan Llwyd o Wynedd, mab fel y tybir i Hugh Llwyd, o Gynfal, yn mhlwyf Maentwrog. Bu Morgan Llwyd farw yn y flwyddyn 1659, a chladdwyd ef yn mynwent yr Ymneillduwyr yn Rhosddu, Gwrecsam. Dywed Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd, iddo ef weled darn o gareg ei fedd, a'r ddwy lythyren "M. Ll." arni, a thystia Mr. John Hughes, Liverpool, yn Hanes Methodistiaeth, iddo yntau weled yr un gareg mewn amser diweddarach. Bernir i Morgan Llwyd bregethu llawer yn sir Feirionydd, a choffeir yn arbenig ei fod unwaith yn pregethu yn mhentref Ffestiniog, a bod yn mysg amryw oedd yno yn cellwair ac yn gwawdio, un dyn ieuangc a ymddangosai yn fwy anystyriol na hwynt oll, ac i Morgan Llwyd ei nodi allan, gan ddyweyd, "Tydi, y dyn ieuangc, gelli adael heibio dŷ
- ↑ Yr ydym yn ddyledus i Meistri H. Ellis, Llangwm; T. Davies, Llandrillo; W. Davies, Bethel; R. Owen, Tŷ'nycelyn; J. Jones, Llangiwc; J. Lewis, Birmingham, a T. Prichard, Plasyndinam, am lawer o ddefnyddiau hanes yr eglwysi o Rhydywernen i Glyndyfrdwy, ac o Landrillo i Bettwsgwerfilgoch.
- ↑ Dylasem grybwyll hefyd yn nglyn a Phenstryd, am ddau bregethwr arall a godwyd yno, sef John Gwilym Roberts, brawd Robin Meirion. Bu yn athrofäau y Bala, ac Airedale. Urddwyd ef yn Lloegr, ac y mae yn awr yn Howden, Yorkshire; ac Ellis Jones, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn ddiweddar, ac y mae fel y deallwn, wedi derbyn galwad o Langwm, Gellioedd, a Phentrellyncymer. Gadawyd y cyntaf o'r ddau allan gan yr Argraffydd, ac ar ol gweithio hanes Penstryd, yr anfonwyd i ni enw yr olaf. Yr ydym mor ofalus ag y gallom, ond y mae rhai gwallau yn diangc er i ni wneyd ein goreu, Cywirir y cwbl y deuwn i wybod am danynt mewn Attodiad yn niwedd y gwaith.