enwau rhai llawer ieuengach, a llai enwog, yn cael eu crybwyll yn fynych. Tybiwn fod hyn yn ddigon am byth i ddymchwelyd y dyb mai Bedyddiwr ydoedd. Mae Mr. C. Price yn dweyd mai pedwar ugain oedd rhif yr aelodau yn y flwyddyn 1690, a'i fod ef a Mr. Nathaniel Morgan, yn gofalu am y gangen yn Abergavenny, a bod y gangen yn Llantrisant, Llangwm, &c., dan ofal Mr. Quarrell, yr hwn a gynnorthwyid gan Mr. Walter Williams, a Mr. William Millman.
Mae yn dra thebygol i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr ymranu oddiwrth eu gilydd tua'r flwyddyn 1690, neu yn fuan ar ol hyny. Pa un ai Mr. Quarrell ai Mr. Walter Williams oedd yn weinidogion i'r Annibynwyr ar ol y rhaniad, ai rhyw rai ereill, nis gwyddom. Mae yn dra thebygol mai hwy oeddynt y gweinidogion cyntaf. Ond gan eu bod hwy yn heneiddio, a bod yr eglwys yn wasgaredig iawn, dewiswyd gwr ieuangc doniol anghyffredin, o'r enw Hugh Pugh, yn weinidog yma tua'r flwyddyn 1695, neu ryw faint cyn hyny. Byddai gwasanaeth rheolaidd yn cael ei gynnal yn ei amser ef yn Abergwaenfan, yn mhlwyf y Goitre, o fewn hanner milldir i'r fan y mae capel Hanover yn awr, yn Mrynbiga, ac yn Llangwm, a dywedir i'r tri phulpud yn y lleoedd hyn gael eu gwneyd yn dduon ar ei farwolaeth, tua'r flwyddyn 1709. Ymddengys ei fod yn boblogaidd, ac yn rhyfeddol o barchus gan bobl ei ofal. Wedi marwolaeth Mr. Pugh, mae yn ymddangos i'r achos wanychu yn raddol yn Llangwm, nes darfod yn llwyr gydag amser, ac i'r aelodau oedd o gylch Brynbiga, Llangybi, a Llandegfeth, ymuno a'u gilydd a chymeryd lle i addoli yn mhlwyf Llandegfeth, a gwneyd eu hunain yn gangen o eglwys Penmain. Parhaodd y gangen yn mhlwyf y Goitre, i ymgynnull yn Abergwaenfan, a buont dros amryw flynyddau dan weinidogaeth Mr. Morgan Thomas. Mr. Thomas oedd gweinidog yn 1718, pryd yr anfonwyd cyfrif o rif y gynnulleidfa, a sefyllfa gymdeithasol yr aelodau, i'r Dr. John Evans, o Lundain. Yr ydym yn cael mai cant ac ugain oedd eu rhif y pryd hwnw, mae yn debygol heb gyfrif y gwragedd a'r plant, a bod yn eu mysg bump o foneddigion, deg yn byw ar eu tiroedd eu hunain, ugain o amaethwyr yn talu ardreth, deuddeg o fasnachwyr, a phymtheg o weithwyr; a bod gan y rhai hyn dair-ar-ddeg o bleidleisiau dros sir Fynwy, a phymtheg dros fwrdeisdrefi Mynwy.
Yn 1724, dewiswyd Mr. Rees Davies yn weinidog. Yn ei amser ef symudwyd yr addoliad o blwyf y Goitre i blwyf Llanover.
Mae yn ymddangos mai mewn anedd-dy y buwyd yn addoli am flynyddau ar ol dyfod i blwyf Llanover, oblegid yn 1744 yr agorwyd y capel cyntaf. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn dysgedig a chyfoethog, ond fel yr ymddengys yn un o dymerau lled ddiserch. Er y fantais a roddid iddo gan ei ddysg a'i gyfoeth, i gyrhaedd dylanwad a phoblogrwydd, bu yn agos a llwyr waghau y lle flynyddau cyn ei farwolaeth trwy ei anserchogrwydd a chwerwder ei dymer. Mae Mr. Phillip Dafydd yn ei ddyddlyfrau yn cyfeirio yn aml at sefyllfa pethau yn Hanover. Gyferbyn a Gorphenaf 4ydd, 1759, dywed "Heddyw yr oedd cyfarfod gweinidogion yn Hanover, ond nid oedd ond pump o weinidogion yn y lle, a chynnwys Mr. Davies ei hun. Mr. Phillip Charles a bregethodd oddiwrth Luc x, 37, ac yr oedd, feddyliwn i, yn fwy bywiog a hwylus nag yr arferai fod. Yr oedd yno amryw wrandawyr, ond yr wyf fi yn credu mai dyma y cyfarfod gweinidogion diweddaf a gynnelir yn y lle hwn tra byddo Mr. Davies yma. Y mae efe wedi pregethu y gwrandawyr allan o'r capel, ac yn awr y mae y gweinidogion yn debygol o gefnu arno." Bu Mr. Davies fyw tuag wyth