Ar ol i'r eglwys fod ddwy flynedd a hanner heb weinidog, wedi marwolaeth Mr. Lewis, rhoddasant alwad i un Mr. Thomas Davies, yr hwn a urddwyd yno Mai 23ain, 1776. Cofnoda Phillip Dafydd yr amgylchiad yn ei ddyddlyfr, ond heb roddi braidd ddim o hanes y gwasanaeth. Y cwbl a ddywed ydyw, i Mr. Thomas Davies gael ei urddo yn Hanover y diwrnod hwnw, a'i fod yn gobeithio y buasai gwaith y dydd yn cael ei fendithio er bod yn ddaioni a chysur i lawer. Ni enwa neb o'r rhai a gymerasant ran yn y gwasanaeth ond y Dr. Benjamin Davies, yr hwn a osodwyd i ddechreu yr oedfa trwy weddi, a beia y trefnwyr yn llym am osod y gweinidog galluocaf o bawb oedd yno i ddechreu yr oedfa yn lle pregethu. Ni pharhaodd cysylltiad Mr. Davies âg eglwys Hanover nemawr dros dair blynedd, ac nis gwyddom ddim pa un ai llwyddianus ai aflwyddianus y bu yno. Mae Phillip Dafydd yn ei ddyddlyfr yn hollol ddistaw gyda golwg arno. Ar gyfer Ebrill 29ain, 1779, cawn y nodiad canlynol: Heddyw bum yn Hanover gyda Mr. Thomas Davies 'yn atafaelu ar eiddo Howell Powell am yr ardreth oedd yn ddyledus." Oddiwrth hyn yr ydym yn casglu fod Mr. Davies wedi ardrethu y tŷ a'r tir perthynol i'r eglwys i'r Howell Powell hwn, a'i fod yn methu cael ganddo dalu. yr ardreth heb osod cyfraith arno. Ni bu Mr. Davies yno yn hir ar ol hyn, ymadawodd yn 1780. Gresyn na buasai yr hen groniclwr ffyddlon Phillip Dafydd yn rhoddi gwybod i nii ba le yr aeth pan ymadawodd oddiyno, ond y mae yn hollol ddistaw. Dywed wrthym iddo fod yn Hanover yn cadw cyfarfod cymundeb ar y 15fed o Hydref, 1780, ac o'r pryd hwnw yn mlaen hyd amser urddiad Mr. William Thomas; yn 1782, yr ydym yn cael ei fod ef yno yn cynnal cyfarfod cymundeb bob tri neu bedwar mis yn gyson. Ionawr 6ed, 1782, ysgrifena—"Bum yn pregethu heddyw yn Hanover, ac yn gweinyddu swper yr Arglwydd. Y testyn oedd Rhuf. vi. 22. Yr oedd y lle yn weddol lawn, ond y mae amryw o'r aelodau wedi myned ar wasgar, a rhai o honynt wedi gwrthgilio." Pa un ai mesur o deimladau annymunol yn gysylltedig âg ymadawiad Mr. Thomas Davies, ai ynte rhyw beth arall a achosodd hyn nis gwyddom.
Yn mhen ychydig fisoedd ar ol hyn rhoddwyd galwad i Mr. William Thomas, un o'r myfyrwyr yn Athrofa Abergavenny. Rhoddir yr hanes canlynol am ei urddiad yn nyddlyfr P. Dafydd. "Hydref 2il, 1782—Heddyw aethum i Hanover, lle yr oedd cyfarfod gweinidogion er urddo Mr. William Thomas y dydd canlynol, a chafodd y gwasanaeth ei ddwyn yn mlaen fel yr wyf fi yn gobeithio er boddlonrwyddi bawb. Darllenwyd pennod gan Mr. Edmund Jones, a gweddïodd Mr. Peter Jenkins. Pregethodd Mr. Owen Davies, Trelech, oddiwrth 1 Tim. iii. 1. Pregeth dda, gyfaddas i'r amgylchiad. Holwyd y gofyniadau a derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. Simon Williams, Tredwstan; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. Isaac Price, Llanwrtyd, a thraddododd Mr. Owen Davies y Siars i'r gweinidog, oddiwrth Col. iv. 17. Siars dda, gyflawn, a phriodol. Bendithied ac arddeled yr Arglwydd waith y dydd." Bu Mr. Thomas am tua dwy flynedd a hanner yn gysurus a llwyddianus iawn yno, ond cyfododd ychydig ddiflasdod rhyngddo a rhai o'r aelodau yn y flwyddyn 1785, yr hyn a derfynodd yn ei ymadawiad yn 1787. Cawn y cofnodiad canlynol yn nydd— lyfr Phillip Dafydd am yr amgylchiad hwn: "Mehefin 30ain, 1785—Bum heddyw yn Hanover gyda Mr. Simon Williams, Tredwstan, a Mr. Williams, Llanfigan, (Aber), yn ceisio unioni pethau rhwng Mr. W. Thomas, â rhai o'r gynnulleidfa, ac yr wyf yn gobeithio na fu ein hymdrechion yn