Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae yn amheus iawn gennym a oes cymaint o ddarllen ar lyfrau da, buddiol, ac adeiladol, mewn unrhyw gymydogaeth weithfaol, ag sydd yn y plwyfydd hyn. Pe meddyliem am funud am y nifer lluosog o gyfnodolion chwarterol, misol, wythnosol, a dyddiol, sydd yn d'od i'r ddau blwyf hyn, rhydd hynny ar unwaith brawf diymwad fod llenyddiaeth yn uchel ynddynt. Cawn enwi y rhai y mae gennym y sicrwydd mwyaf eu bod yn d’od i Bethesda y flwyddyn hon, 1866.

Y rhai Cymreig ydynt:—Rhai Chwarterol—"Y Traethodydd" a'r "Beirniad." Rhai Misol—"Y Drysorfa," "Trysorfa y Plant," "Dysgedydd," "Cronicl," "Yr Ardd," "Yr Eurgrawn," "Y Winllan," "Y Greal," "Gwyliedydd," "Haul," "Eglwysydd," "Cyfaill Eglwysig," &c. Rhai Wythnosol—"Baner ac Amserau Cymru," "Yr Herald Cymraeg," "Cronicl Cymru," a'r "Byd Cymreig."

Y rhai Seisnig ydynt:-Y rhai Misol-"Corn-hill Magazine," "Sunday School Times," "Good Words," " London Journal," "Children's Friend," &c. Y rhai Wythnosol-"Carnarvon and Denbigh Herald," "North Wales Chronicle," "Liverpool Mercury, "News of the World," "Lloyd's Weekly," "Reynold's," " Illustrated London News," "Weekly Times," "Public Opinion," "Saturday Review, " "Penny Illustrated Paper, "British Workman," a "Cassell's Illustrated Paper." Rhai Dyddiol-"Times," "Daily News," "Standard," "Morning Star," a "Liverpool Mercury."

Yr ydym yn cael nad oes dim llai na THAIR MIL o'r gwahanol gyhoeddiadau uchod yn d'od yn fisol i Lan llechid a Llandegai. Mae hyn yn siarad cryn lawer ar beth yw sefyllfa llenyddiaeth yn y ddau blwyf y dyddiau hyn. Gallem chwanegu mai nid y cyhoeddiadau uchod yn unig sydd yn cael eu derbyn ynddynt; na,