Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

buddiol, er ei fod fel areithiwr yn lled ddiffygiol; eto, byddai pob gwrandäwr meddylgar yn bur siŵr o glywed rhywbeth yn mhob pregeth gwerth ei gofio. Yr oedd yn un o'r Cymreigwyr goreu yn ei ddydd. Adnabyddid ef y pryd hwnnw wrth yr enw " John Williams y Gramadegwr." Mae yn debyg iddo wneyd mwy na neb arall yn yr ardaloedd hyn, oddigerth Gutyn Peris, tuag at hyfforddi yr anwybodus o reolau y Gymraeg. Yr oedd hefyd yn fardd lled dda. Cyfansoddodd lawer, a'r rhai hynny gan mwyaf yn y mesurau caethion. Cyfansoddodd amryw draethodau campus, un ar Ragoroldeb y Gymraeg, un arall ar Wahân-nodiad, &c. Bu fyw lawer o flynyddau yn Mangor, ac yma y bu farw.

ELLIS GRIFFITH, BRAICHTALOG, oedd bregethwr poblogaidd a chymeradwy. Mab ydoedd i Gutyn Peris. Bu am lawer o flynyddau yn ysgolfeistr llwyddiannus yn Aberystwyth, mewn ysgol berthynol i'r Wesleyaid. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i'w ysgol yn y "Llyfrau Gleision." Cafodd ei raddio yn uchel gan y Normal Seminary, Glasgow. Yr oedd yn fardd da hefyd. Cawn iddo gyfansoddi cryn lawer mewn rhyddiaith a barddoniaeth.

ROBERT MOSES, SHILO, oedd bregethwr doniol anghyffredin, a lled egwyddorol, ac ystyried ei fanteision: nid oedd ond dyn wrth ei ddiwrnod gwaith. Bu farw yn America yn 1860.

DAVID DAVIES, CILGERAINT, a gyfrifir yn bregethwr da, ac yn myned ar gynnydd mewn ysbryd a dawn i bregethu yn ei flynyddoedd olaf. Yr oedd wedi ymadael o Bethesda yma er's yn agos i 20 mlynedd. Bu yn Oruchwyliwr am flynyddau yn Rhiw, Ffestiniog. Yr oedd ers blynyddau wedi ymadael i gymeryd goruchwyliaeth chwarel yn Corris, lle yr enillodd barch a chymeradwyaeth mawr y gweithwyr yn y lle.

JOHN WILLIAMS A HENRY WILLIAMS, SHILO, sydd frodyr, ac yn bregethwyr tra egwyddorol a chymeradwy. Mae y ddau yn Llafurio yn yr America er's amryw flynyddau.