blyneddoedd yn govyn i'r Llywodraeth basio drwy y Gydgynghorva ryw gyvryw ddeddv, ond heb dycio. Gwnaed un ddeddv arbenig ar ein cyver, sev Deddv y Tir; ond gwnaed y mesur carbwl hwnw tra o dan y syniad vod yma dir llavur anhervynol, ac wedi defroi o'r amryvusedd hwnw nid oedd ryw vrys mawr i'w chario allan, drwy roddi gweithredoedd i ni. Yr oedd eve, velly, mor awyddus a neb i gael deddvwriaeth; ond yn ymarverol barnai mai over hollol oedd i 700 neu 800 o boblogaeth bellenig ddisgwyl i'r Gydgynghorva, oedd bob amser ar frwst, vel Cyngor y Wladva, wneuthur trevniadau Tiriogaethol ar eu cyver hwy yn unig. Peidiodd dyddordeb mawr y Llywodraeth pan beidiodd dyvudiaeth yma. Hwyrach y gwneid rhywbeth rywdro. Ond a vyddem ni heb drevniadau i ni ein hunain hyd hyny? Anvonasai y Llywodraeth Brwyad yma i'w chynrychioli, a dywedasai yn bendant wrtho vod y trevniadau a veddem neu a wnaem ni i barhau nes y gwnaent hwy eu gwell, os gwelent angen i hyny. Paham, ynte, y diystyrwn ni y trevniadau? Diau eu bod yn amherfaith ac anghyvlawn, ond eve a veiddiai ddweud eu bod yn gryno o vewn y Cyvansoddiad Cenedlaethol—yn llawn mwy yn ymarverol velly nag odid lywodraethiad lleol yn y Weriniaeth,—ac nad oes eisieu ond myned yn mlaen yn yr un yspryd, ac velly voddio y Llywodraeth a lleshau ein hunain. Nid oedd ryw ddaioni mawr un amser o hòni ryw or—oval am vuddianau ereill Ve ovalai y Llywodraeth drosti ei hun, gallem ventro, vel y gwnaeth pan gyveiliornasom yn achos y llovrudd. Oud y dyryswch a'r divlasdod iddo ev oedd vod gweinyddwyr trevniadau y Wladva yn esgeulus ac anfyddlawn. Yr oedd ein fyrdd a'n fosydd a'n pontydd yn druenus, ac yn govvn llawer mwy o'n sylw na chorforaeth nac arall. Musgrell iawn vu y Cynghor, mae'n ymddangos; ond tadogai eve lawer o hyny, a holl ddilunwch presenol ein sevyllva, i ddifyg yni ein Gweinyddwyr.
Y Prwyad Oneto gyhoeddai ei syniadau yntau vel y canlyn:Ni vu genym erioed weinyddiad rheolaidd, a phob amser mewn gwrthosodiad i'r cyvreithiau Cenedlaethol. Mae bellach yn bryd ei gwneud yn gydfurviol â'r cyvreithiau Cenedlaethol. Er mwyn cyrhaeddyd hyn byddai yn ddoeth apelio at y Llywodraeth Genedlaethol, mewn trevn i roddi i ni gyvarwyddyd Cenedlaethol, a chyvansoddiad bwrdeisiol; gweinyddiad barn Genedlaethol, a rhoddi i ni y nerth angenrheidiol i gario ymlaen gyvraith a chadw trevn; ac hevyd ein cynysgaeddu â'r moddion hanvodol i sevydlu cartrevlu, er ein amddifyniad rhag ymosodiadau tebygol y brodorion.
Hevyd, dylem wahodd y Llywodraeth i anvon i ni athraw ac athrawes alluog; oherwydd heb addysg bydd ein plant a enir yma y rhai yn ol Cyvansoddiad y Weriniaeth ydynt yn ddeiliaid ohoni—heb wybod dim o iaith eu gwlad, a deuant yn Indiaid