Wedi egluro vel yna ddychweliad y nodyn, gallav chwanegu vod y Brwyadva hon wedi cymeryd mesurau yn y mater y cyveiriwch ato na wneir eto y camwedd a nodwch, a danvon adroddiad i'r awdurdodau. Mae y Llywodraeth eto heb varnu yn angenrheidiol sevydlu yn y Gwladvaodd Cenedlaethol unrhyw awdurdodau lleol, megys Cynghorau, Ynadon, na heddgeidwaid, wedi eu dewis gan y sevydlwyr, ond ymddiried i'r Prwyadon weinyddiad mewnol, milwrol, ac i hyny wedi rhoddi iddynt gorf o heddgeidwaid yn warchodaeth. Gŵyr yr holl sevydlwyr vod ganddynt yn y Prwyad awdurdod gyvreithlon i edrych ar ol eu holl gwynion a thravod eu materion pan vo alw am gyviawnder, ac y bydd gwasanaethwyr y Brwyadva yn ovalus yn eu holl ymwneud cyhoeddus a phreivad, ac i roddi esiampl i'r sevydlwyr vel na byddo unrhyw gwyn am eu gweithrediad. Ar lavar, hysbysais chwi y byddai yn dda genyv gevnogi cais at y Llywodraeth i gydnabod yn swyddogol eich swyddi a definiad eich awdurdod; eithr hyd nes y ceir hyny nis gallav eich cydnabod yn y cyvryw weddau, a chredav na ellwch lai na chanvod rhesymoldeb vy saviad. Gyda hyn o eglurhad mae'n bleser i mi gyvlwyno i chwi fy ngwerthvawrogiad ohonoch.—JUAN FINOQUETTO.
Atebwyd yr uchod.
At y Prwyad Cenedlaethol, D. Juan Finoquetto.—Ymbwyllais hyd yn hyn cyn cydnabod derbyniad eich nodyn rhyvedd a'i ateb. Mae'n beth tawelwch cael eich gair "na chaif peth vel hyn ddigwydd eto." Ond y mae eich honiad “nad oes yn y Wladva hon ddim awdurdodau lleol yn bod," yn tueddu i gyfroi yn y sevydlwyr ovnau am eu hawliau cyvreithlon, ac yn peri nas gallant gredu vod hyn yn gynrychiolad gwir o syniadau y Llywodraeth tuag at y sevydliad. Rhoddais i chwi ar eich dyvodiad yma grynodeb o hanes gweinyddol y Wladva er y cychwyniad, 11eg mlynedd yn ol. Rhoddais i chwi ddyvyniadau o lvthyrau Gweinyddiaeth Mitre a Rawson a'u cevnogaeth i'r Wladva: cyveiriais at dros 300 o ysgrivau swyddogol vuasai rhwng y Wladva a'r Llywodraeth. Ychwanegais o gyv. arwyddiadau y Prwyad Oneto, ar iddo "barchu a pharhau yr awdurdodaeth oedd." Adgoviais chwi o agweddiad dewr a phwyllog y Wladva pan ddaeth llu arvog alltudion Punta Arenas yma. Yna yn Hydrev 6, 1876, cyhoeddodd y Llywodraeth Ddeddv Dyvudiaeth a Gwladvaoedd, ymha un y cydnabyddid yn llawn y savle Leodrol i'r 50 teulu oyntav ddelai i'r sevydliad. Cyveiriais chwi hevyd at gyvraith Rhaglawiaeth y Chaco, 1872, ac a gymhwyswyd at diriogaeth Patagones, 11 o Hydrev, 1878, yn dynodi galluoedd a dyledswyddau Cyngor Lleodrol ac Ynad Heddwch. I gyvarvod hyn oll nid oes