Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dorwyd, pa drais ar heddwch na diogelwch neb a gyvlawnwyd? Os bu anghydweliad, pam na ellid ei setlo mewn dull teilwng o'r urddas a'r rheswm gwaraidd yr hònwn ni vod yn perthyn iddynt. Os oedd raid carcharu un o'r pleidiau, pam na chymerasid yr un mwyav yn y camwedd? Pe buasai priv ddinas Archentina yn wersyll Indiaid ni vuasai ryveddach gweled yngharchar ddau ŵr ag y mae'r wlad yn vwy dyledus iddynt nag i ddwy gatrawd o blismyn gwledig. Yr ydym yn sicr nad oes ddeiliaid tawelach yn bod na'r Cymry—yn bobl hyddysg, diwylliedig, diwyd, a thawel—a pham velly na adawsid iddynt drevnu eu hachosion lleol eu hunain: gwnaethent hyny yn llawer gwell na chrach swyddogion vel hyn. Pe byddai swyddwyr y Llywodraeth yn Chubut yn deilwng o barch, gwyddom yn burion y cawsent hyny gan y Cymry hyn i'w llawn haeddiant. Mae sevydlwyr Chubut yn ddyledus am eu llwydd presenol yn gwbl i'w hymdrechion eu hunain, ac nid i ddim cymorth gawsant gan y swyddwyr."

Ar ol bod yn y ddinas vis cyvan, ganol hav poeth—heb na holi na phrawv—cyhoeddwyd ryw ddiwrnod gan y Gweinidog Cartrevol, y reithvarn ganlynol ar y carcharorion:—" Wedi gweled adroddiad prwyad Chubut, yn dangos vod L. Jones a R. J. Berwyn wedi gwrthwynebu awdurdod y prwyad hwnw—y blaenav drwy gymell cyrddau i wrthwynebu trevniadau y prwyad i gymeryd rhiviant y lle, a'r ail drwy anos y sevydlwyr i gevnogi'r blaenav, eithr ar yr hyn na wrandawodd y sevydlwyr —ac am hyny ddarvod dwyn y ddau i'r ddinas hon i garchar. Wrth ystyried (1) Mai priodol vuasai cyvlwyno yr achos i'r llysoedd rheolaidd am yr haeddianol gosp; ond y gellir yn yr achos hwn weithredu mewn tynerwch, yn ol dymuniad y prwyad ei hun: (2) Fod yr awdurdod genedlaethol wedi ei barchu drwy i'r dorv sevydlwyr ymchwalu o vlaen yr arddangosiad wnaeth y prwyad, a datgan eu huvudd—dod i'r awdurdod, a govyn vel cymwynas am ryddhad L. J. (3) Vod hwnw ei hun, y penav yn y camwedd, yn esgusodi ei ymddygiad drwy ddatgan nad oedd ganddo un bwriad i amharchu yr awdurdodau. (4) Vod y prwyad ei hun yn eiriol dros y carcharorion, a govyn ar iddynt gael eu hystyried vel wedi eu carthu o'u trosedd, ac vod y gwyddonwyr Frengig oedd yn y lle ar y pryd yn cymeradwyo yr un peth—Cyhoedder hwy yn rhydd.—B. DE IRIGOYEN.

Dychwelasai Berwyn i'r Wladva pan welwyd mai mewn mwg y darvyddai'r helynt—ond arosodd L. J. i weled y diwedd, ac yna ddanvon y nodyn canlynol i'r Gweinidog, ymhen 6 wythnos o ddisgwyl:—

{[right|Buenos Ayres, 15 Chwev., 1883.}} At y Gweinidog Cartrevol, Dr. Irigoyen.—Rhoddwyd i mi heddyw y wybyddiaeth swyddol o bendervyniad y Llywodraeth yn y mater a'm dygodd o'm cartrev pell yn y Wladva i'r