kilomydrau yn sgwar drwy'r dyfryn uchav, ond yn hirsgwar drwy'r dyfryn isav. Cyn hir disgwylir i'r cynllun dyvrio o'r avon drwy gamlesi, fosydd, a chloddiau gyvlenwi pob erw o'r tir, vel y mae nwy yn cael ei gario drwy bob heol yn y ddinas. Vel hyn y mae genym rwydwaith o gamlesi, yn y rhai y mae gan y sevydlwyr oll vudd cyfredin : geilw hyny am bontydd a llivddoru lawer, ac ymyra hyny â'r fyrdd cyhoeddus ymhob cyveiriad, gan beri costau a govalon lawer. Rai misoedd yn ol syvrdanwyd y Wladva gan yr hysbysiad vod holl weinyddiad y buddianau hyn wedi eu hymddiried i'r prwyad. [Pell oddiwrthyv vi yw yngan gair amharchus am Mr. Finoquettoymddengys yn voneddwr bob modvedd]. Yr oedd ganddo i wneuthur rheolau am fyrdd, fosydd, caeau, heblaw setlo pob ymravael a chwynion. Rhoddodd y prwyad orchymyn y gallai'r neb a vyno gau ei ferm i vewn ond gadael 12 llath o fordd o'i hamgylch, a gadael 45 llath o vin yr avon. Setlodd hyny drevn ein fyrdd—yr oeddynt i redeg ar ogwydd o 45 i rediad y dyfryn, a phob 750 llath yr oedd fordd i vod: i vyn'd o'r drev i'r dyfryn uchav, rhaid dilyn yr avon, ac wedi hwyrach dravaelu dwy villdir bod o vewn 10 llath i'r man cychwyn, neu vynd igam—ogam gyda'r tervynau : a phe byddai gan ddyn amynedd i wneud hyny, gelwid arno rai misoedd bob blwyddyn i rydio fosydd a phantiau avrived. Nid wyv yn dweud nad hyn yw y gyvraith, ond dywedav os mai dyna ydyw, ac os rhaid i'r sevydlwyr aberthu 10 erw o dir ger pob ferm i wneud fyrdd cyvreithiol, y rhaid aberthu hevyd lawer o dir i wneud fyrdd tramwyol. Yn ol y cynllun hwn o fyrdd rhaid i bob fermwr vynd i'r draul o gau ei holl ferm, yn lle ei haner—gwn am un man y rhaid i'r fermwr wario £500 am wivro yn lle £150, a cholli 60 erw o vin yr avon—cyvriva mesurydd medrus y byddai'r cynllun hwn yn golled i'r Wladva o £160,000 rhwng tir a thraul. Gwelir velly, wrth vod y fermi yn croesi yr avon, a'r camlesi yn croesi'r fermi, a'r fyrdd yn croesi camlesi—yr arweiniai peth vel hyn i benbleth lwyr. Ceisio dangos yr wyv drwy hyn vod rheolaeth leol yn rheidrwydd. Nis gall vod camgymeriad mwy na gomedd i'r Wladva ei hawdurdodau lleol byddai yn rhwym o ddwyn y swyddwyr cenedlaethol i warth—nid am na byddant yn cyvlawni eu swyddi yn ddigon cydwybodol, ond am nas gallent wneud hyny yn ddeallus heb y proviad lleol. Ac am yr Ynadva drachevn—ve welir oddiwrth yr anhawsderau cymhleth a amlinellais y codai achosion a hawliau a buddianau i'w travod ag y byddai ry anhawdd i ddyn dyeithr eu dadrys. Mae y sevydlwyr yn Archentiaid i'r gwraidd, ac ni ddylid eu herlid oblegid eu hiaith—mae hono yn rhodd Duw. Diau vod yn hanvodol i'r awdurdodau lleol vod yn deall Hispaenaeg, a'r un mor sicr vod o ddirvawr bwys at weinyddu cyviawnder a chwareu teg ar i'r Cymry gael Ynad yn eu deall
Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/149
Gwedd