i barhau yn eu swydd ddwy vlynedd, rhan i'w newid bob blwyddyn. Y Bwrdd hwn sydd i drevnu gweinyddiad eiddo a buddianau cyhoedd y lle: pènu y trethi lleol, eu casglu a'u treulio erchi pob gwaith cyhoeddus y gellir ei wneud o'r cyllid lleodrol. Mae trevniadau manwl iawn oddeutu etholiadau a furviau; ond "arverion y Weriniaeth' yn peri traferth ac anhawsderau yn aml.
Y Rhaglaw cyntav benodwyd i roddi y trevniant Tiriogaethol newydd mewn grym oedd yr is—vilwriad Luis G. Fontana, boneddwr goleuedig a thirion, drwy drugaredd, ag a vuasai yn arolygu gwladva Formosa, cwr o eithav arall y Weriniaeth. Gan vod y gwladvawyr yn hen gyvarwydd â Lleodraeth yn ymarverol, ac nad oedd y ddeddv newydd namyn hanvod yr hen drevn, gyda rhyw vanylion a dulliau Arianin, gorweddodd pethau yn esmwyth ar unwaith. Penodwyd L. J. yn Ynad tu gogleddol yr avon, a D. Ll. Jones yn Ynad y tu deheuol; ac etholwyd Cyngor cryv yn cyvarvod yn Gaiman vel y man canolog. Penodwyd Barnwr Cyvraith a swyddwyr i'w lys; a phenodwyd llu o is—swyddwyr i'r rhaglawiaeth a'r llys; a phenodwyd hevyd bost—veistr i'r Wladva—y Llywodraeth yn talu cyvlogau yr oll, oddigerth y Cyngor. Heblaw yr holl swyddwyr hyn yr oedd hevyd eisoes gabden y borth a'i wyr, a penaeth y dollva a'i glercod. Y swyddoga hwn yw malldod y Weliniaeth. Mae anibendod a furviadu hevyd yn dreth drom ar amynedd ac amser, ac yn gancr i ysu busnes ac onestrwydd y wlad.