GWNEUD pobpeth erddom ein hunain heb ddimai o'r £5000 fyrdd, camlesi, ysgolion, faldiau, pontydd, glanveydd, neuaddau, capeli, &c. Caniataodd y gydgynghorfa, dro yn ol, i 40 y cant o drwyddedau masnachol y Diriogaeth vyned i'r lleodraethau: ac yr oedd hyny yn davell lled dda. Ond dadleuwn i vod y Dreth Dir leol hevyd yn perthyn i'r Lleodraeth, am vod "yr oll y tu vewn i'r finiau lleodrol yn cael eu nodi yn y gyvraith i vyned i'r Lleodraeth. Elai y $2000 neu $3000 ohono gesglid yma yn vlyneddol i'r llynclyn mawr yn y briv ddinas—ddylasai aros yma. Ond mwy na hyny, byddai cael trethu ein tir ein hunain at ein buddianau ein hunain, yn gafaeliad gwleidyddol gwerth son am dano."
Yna yn Chwev. 8, 1894, rhoddai drachevn yn y Dravod yr adroddiad canlynol:
"Wedi tri mis o bwnio dyval ar yr awdurdodau am y Dreth Dir, debygav i mi gael o'r diwedd o leiav garai o groen y Llywodraeth, os nad hevyd y croen i gyd. Gwingai y Twrnai Cyfredinol drwy ddadleu mai eiddo Tiriogaethol yw y Dreth Dir, ac nid eiddo Lleodrol, ac velly na ellid caniatau onid 160 o fermi "tu vewn i'r fin," y gallai'r Lleodraeth eu prisio a'u trethu. Ond yn swta hollol, pan oeddwn yn y niwl amwys yna gyda'r Twrne Cyfredinol, cevais y nodyn canlynol o swyddva Gweinidog y Cyllid, Dr. Terry:— Ar eich cais, mae genyv yr hyvrydwch o'ch hysbysu vod yma yn aros am arwyddiad y Gweinidog yr ysgriv yn caniatau i Leodraeth Chubut y devnyddiad o Dreth Diriogaethol y rhanbarth hono, yn ol vel y govynai eich ysgriv.'
Gwelodd y Rhaglaw a phenaeth y gyllidva yn y Wladva vod y Llywodraeth yn cydnabod grym y ddadl; a threvnwyd yn ebrwydd i weithredu yn ol hyny, a rhoddi yn ymarverol hawl i'r Lleodraeth brisio y tiroedd, a chodi y dreth leol yn ol hyny. Diogelwyd velly nad elai y Dreth Dir allan o'r Wladva; a diogelwyd hevyd weinyddiad y dreth gan y Cynghorau.
Yr engraift arall a govnodir nid ydyw, evallai, yn vanwl Leodrol, eithr dengys gyswllt y peirianwaith Lleodrol wrth y trevniant Llywodraethol mawr, ac velly y modd i'w hysgogi. Yr eglurhad cyntav ar y mater hwn yw—vod cyvraith y Weriniaeth yn ystyried pob gwryw a enir ynddi (a phob un a ovyna am ddinasvraint) yn agored i wasanaeth milwrol o 18 i 40 oed, a'u bod i vyn'd dan ddysgyblaeth vilwrol ar adegau, ond yn benav ar bob dydd Sul, am 3 mis o'r vlwyddyn: eithr yn ymarverol ni elwir ond ar ddynion sengl yn unig i vyned drwy yr ymarver hon. Yr ail eglurhad yw—Mai y Sul yw diwrnod mawr divyrion a segura y Weriniaeth, ac velly yr hawddav i'w hebgor