eddau cyn hyny yn lyvelu a chynllunio, a'r cynlluniad hwnw ddangosir yn y map o'r dyfryn sydd gyda'r llyvr hwn ; ond nid dyna yn union y cynllun gavwyd yn ymarverol i'r dyfryndir oll, er y dengys hwnw yn ddigon agos y trevniad dyvrhaol o'r dyfryn. Y ddwy briv gamlas ydynt gyvredol o bob tu i'r avon, gan ymgangenu ar y manau uchav, vel y bo gyvleus. Ar y tu gogleddol mae'r genau (bala) gryn 50 milldir o'r mor, ac o'r tu de ryw 60 milldir. Gellir ystyried yr un ar y tu de yn un llinyn o'r Trifysg("Santa Cruz") i Barc—yr—esgob: ond y mae'r un ar y tu gogleddol a dybledd arni ger Gaiman—h.y., bala newydd yno ivyned hyd Drerawson, tra y briv ogleddol yn dirwyn drwy Gaiman ar lyval uwch, gan ymarllwys i'r avon ar gyver Drova Dulog. Perthyna y camlesi hyn i dri chwmni, a'u trevniadau a'u rhaneion yn amrywio cryn lawer: arolygir hwynt gan swyddogion cyvlog o etholiad yr aelodau, y rhai hevyd a ddewisant y byrddau hyrwyddol sydd yn gwylio yr oll. Mae gan y Llywodraeth Arianin, yn y taleithau uchav, lawer o weithiau dyvrhaol wnaed gan bwrs y wlad: ond y mae camlesi y Wladva yn frwyth cynlluniad a gweithiad y Wladva ei hun bob doler. Yn y cyvnod bore ar yr ymdrechion camlesol hyn nid oedd ond rhaw bâl at y gwaith envawr oedd o'u blaenau, na dim ond enllyn main y bara sych a dwr i helpu gewynau a chevnau. Darllenasai un o'r gwladvawyr am varch—raw (horse—shovel) wnaethai rhyw Ianci, ac aeth yntau ati i wneud un iddo'i un gwnaed gwrhydri o waith gyda hono, a rhai "godebyg" iddi: cyn hir yr oedd march—rawiau yn ofer anhebgor a chyfredinol yn y Wladva. Aruthr o olygva i ddyeithriaid yw y tomeni pridd wrth gamlesu sydd ar hyd a lled y dyfryn—digon dolurus i lygaid, ond arwyddocaol iawn o'r egni dyval dyrchodd ac a gloddiodd y vath grugiau er mwyn y rhedweliau o ddwr bywiol sydd rhyngddynt. Gryn amser yn ol cyhoeddodd y Rhaglawiaeth amcanaeth o'r Camlesi—eu hyd a'u gwerth, lled agos.
Erbyn covriviad 1896, cyvrivai y Rhaglawiaeth y gwerth yn ddwy viliwn o ddoleri; ond tebyg nad yw yr oll ond brasamcan lled agored.