oer, evallai, a dyvriad anvoddhaol gyda hyny. Erbyn hyn mae pob fermwr yn adnabod manau gwan a manau goreu ei gaeau, ac yn darbod ar eu cyver: eithr beunydd y mae rhyw vanau newydd i'w dwyn dan driniaeth neu welliantau. Hyd yn hyn nid oes dim gwrteithio ar y tir yn y Wladva ragor na thaenu peth o'r gwellt ar ol dyrnu, a throi hwnw i'r ddaear wrth aredig sovl y llynedd. Ac yn y van hon y dylid crybwyll un nodwedd neillduol iawn ar farmio yn y Wladva—sev nad oes ond un haner o'r tir âr dan driniaeth yr un vlwyddyn : gadewir yr haner arall yn segur, neu evallai yr erddir hi at ddiwedd hav i'w gadael yn vraenar dros y gauav. Velly, erbyn yr ail dymor, dychwelir i drin y sgwariau cyntav, ac eir drwy yr un orchwyliaeth, ar ol cyvanu y cloddiau. Tua haner ferm (120 erw) lavurir yn y tymor: ond wrth gwrs y mae llawer heb vod haner hyny, a llawer yn anwastad, ac velly anyvradwy, neu waith clirio drain oddiarnynt. Ond dyna'r unig ddilyniad enydau" sydd yn y Wladva hyd yn hyn: a dengys nad oes mo agos i haner y tir yn cael ei ddevnyddio i gynyrchu dim mewn tymor. Yr unig eithriad i hyn yw y cnydau alfalfa, neu lucerne, a dyvir yno yn wair ac i hadu, am yr hwn hâd y mae marchnad dda bob amser yn Buenos Ayres. Math o clover yw, o'r hwn y mae cefylau a gwartheg yn hof iawn, ond pan yn las sydd beryglus i'r gwartheg: torir tri neu bedwar cnwd o hwn yn y tymor, a gwna wair rhagorol: ambell dymor gadewir iddo hadu, a chan vod yr hâd gymaint yn rhagorach na hâd cyfredin y Weriniaeth (vel hevyd y mae gwenith y Wladva). rhoddir pris da am dano, ac y mae llawer un yn elwa'n well ar yr hâd hwnw nag ar y cnwd gwenith: y gwaethav o hwn yw ei vod yn ymledu i bob cyveiriad gyda'r dŵr a'r gwynt, ac yn anhawdd iawn i'w newid, am ei vod yn gwreiddio mor ddwvn mewn daear mor briddog a chleiog: lleddir hwn gyda'r peir—bladuron (mowers) Amerigaidd ysgeivn dau gefyl a'r gyrwr ar ei eistedd. Gwelir oddiwrth hynyna nad oes ovalon lawer ac amrywiol ar fermwyr yn y Wladva, os bydd y cyvlenwad o ddwr yn ddigonol at yr alw ni raid iddo bryderu am hinddai gywain ei gnwd yd: mae ganddo vedur i'w vedi a'i rwymo, a chaif ddigon o amser i'w gario a'i ddasu ei ddwy helbul yw barug ddechreu gwanwyn, a gwynt ganol hav yn bylchu ei gloddiau dyvrio a dyhidlo ei rawn aeddved. Gallai gwas ferm yn Nghymru veddwl wrth geisio dilyn hyn o ddesgriviad na vyddai ganddo ddim i'w wneud yn y Wladva ond chwibanu i ddisgwyl i'r dŵr vynd dros y cae, ac yn y man eistedd ar y medur yn llygad haul brav i yru drwy ryw 5 erw y dydd o wenith; cario hwnw yn y vèn wrth ei bwys: disgwyl am ddiwrnod a chinio mawr y dyrnu: ac yna ei gario vesur tunell a haner i'r varchnad, gan vod ddiwrnod ar y daith. Ond covied yr ochr arall. Gwelir hevyd y golyga trevniant celvyddydol vel hyn o amaethu gryn lawer o bontydd
Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/176
Gwedd