—er y gwneir trosiadau mynych ar y tiroedd yno. Hwyrach y bydd hyn o eglurhad byr ar y sevyllva yn ddigonol:—yn y seith-degau (gwel aml gyveiriadau), yr oedd pethau yn ymddangos yn vygythiol rhwng y ddwy weriniaeth parthed perchenogaeth rhan ddeheuol y cyvandir. Cyvryngodd yr Unol Daleithau drwy ei chenadydd yn Chili (Gen. Osborne), a gwnaed cytundeb o linelliad a finiau: yn ol hwnw rhoddid rhimyn cul o'r tir gyda chydvor Machelan i Chili—rhenid Tierra del fuego rhwng y ddwy wlad, a datgenid y fin i vod "gyda phigyrnau uchav yr Andes a rhaniad y dyvroedd." Pan aethpwyd i edrych y "pigyrnau uchav," gwahaniaethai y gwyddonwyr dros y ddwy wlad yn vawr iawn ar y rheiny: eithr os mai rhaniad y dyvroedd oedd i'w ddilyn, yna yr oedd cryn davelli o'r gwregys tyvianus godreu dwyreiniol yr Andes a'u dyvroedd yn arllwys i'r Tawelvor—ochr Chili, wrth vod yr avonydd yn cyd—redeg gryn fordd gyda'r Andes, ond yn rhedeg drwy vylchau anhygyrch o'r gadwen vynyddig i'r Tawelvor—velly drwy dri neu bedwar o vylchau, ond yr avonydd cyn myned i'r bylchau hyny yn dreinio lleiniau mawr o wlad tu dwyrain i'r Andes. Mae'r ddau briv lyn—Nahuel-huapi a Fontana—yn ymarllwys i'r Werydd, tra llynoedd y Corcovado a Cholila yn bwrw drwy'r bwlch i vôr Chili. Wedi cryn ddadleu a pheth cecru—o leiav o du newydduron y ddwy wlad—cytunodd y ddwy Lywodraeth ar i'r ymravael gael ei athrywynu rhyngddynt gan Vrenines Prydain Vawr (drwy ei chyngorwyr, wrth gwrs). Mae weithian ddwy vlynedd neu dair er pan gytunwyd velly: ond y ddwy wlad yn amlhau llongau rhyvel aruthrol, vel pe'n bygwth eu gilydd. Mae gan y ddwy wlad hevyd ddirprwyon gwyddonol yn archwilio a mapio y mynedveydd o'r naill ochr a'r llall er's tro. Yn y cyvamser mae y Werinaeth Arianin yn gwthio rheilfordd o'r Werydd, gyda'r avon Negro a Neuquen, am lyn mawr Nahuelhuapi, gyda'r hwn lyn y mae agorva lled rwydd i odreu Chili. Oblegid yr ysbrydiaeth yna, mae'n debyg, y peidiodd y Llywodraeth Arianin a rhoi meddiant tervynol o'u tiroedd i sevydlwyr Bro Hydrev, rhag y buasai hyny yn achlysur tramgwydd i Chili. Ond diau y ceir meddiant cyvlawn yn y man.
A rhoddi o'r neilldu 50 lech Bro Hydrev, a 300 lech tiroedd Cwmni Tir y De, gwnaeth y Llywodraeth drevniant mawr arall am y tiroedd eang tua'r broydd hyny. Vel hyn:—I wobrwyo y milwyr wnaethent y gadgyrch gynlluniodd y Cadvridog Roca i lethu neu ddiva yr Indiaid, deddvodd y Congres i roddi allan sicrebau (certificates), i'r milwyr hyny, yn ol eu graddau ac yn ol eu gwasanaeth: trevnid i'r swyddveydd milwrol wirebu ac arolygu y rheiny, ac yna y gellid eu gwerthu yn y varchnad "i gymeryd eu siawns a brynai neb hwynt neu beidio. Y cam nesav oedd i'r Llywodraeth vesur a gwneud adroddiad am y tir gawsid velly "yn veddiant i'r Genedl," a chytunwyd i dalu