Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/217

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhestrir yma vel hyn rai dichonolion mwnol, vel awgrymion daearegol am y wlad.

Pan giliodd y môr oddiar y paith presenol, gadawodd ar ei ol lawer o naws heliaidd yn y ddaear, ac wrth mai ychydig wlaw mewn cydmariaeth sydd yn disgyn yno nid yw yr halen yn cael ei sgwrio allan i'r avonydd. Gan hyny y mae y vetel drom halen yn ymgeulo mewn llynoedd a fosydd alkalaidd, gan sychu yn yr haul hav, eithr i doddi drachevn pan syrthio gwlaw, os na vydd digon o rym yn y llivogydd i sgwrio'r heli i'r avonydd rhedegog. Pan ddeuir i gyfiniau'r Andes y mae halen yn beth mor amheuthyn vel y mae'r aniveiliaid yn chwilena am bob naws ohono gafont: a chludir peth ohono yno o'r llynoedd halen agosav i'w roi i'r daoedd, am yr ovnir vod prinder ohono yn cadw daoedd heb besgi gystal.



Rhoddir yma erthygl gyhoeddodd naturiaethwr Frengig, deithiasai yn ddiweddar dros ranau o diriogaeth Santa Cruz, sydd yn ddamcanaeth ddaearegol ddeallus am y wlad o Rio Negro i gydvor Machelan—cymwysadwy at diriogaeth Chubut.

"Adeg bell yn ol, ni vodolai y Tiriogaethau Cenedlaethol a elwir Patagonia. Lle yn awr y rhed y brodor a'r wanaco a'r estrys, rhedai tonau y môr nes golchi traed yr Andes. Ond môr bas ydoedd, a'i waelod yn graddol godi, nes o'r diwedd iddo ddyrchavu goruwch y dwr, ac wele dir newydd. Yna planhigion a chreaduriaid a ddaethant i lawr o'r mynyddoedd ac o'r gogledd, a dechreuasant gartrevu ar y gwastadedd newydd. Yr oedd yr hinsawdd yn dyner, ac nid oedd yr Andes mor uchel ag ydyw yn awr. Heidiai yr avrived vathau lawer o greaduriaid a vywient yn y llysieuaeth rongc orchuddiai y wlad. Ymhlith y Mamodiaid y rhai penav oeddynt Gedogion, tebyg i kangarw Awstralia: a chyda hyny 'epenlates, pachyderms a rodents'a'r rhai olav hyn yn anverthol vawr, tebyg i'r Megamys ddarganvyddwyd gan d'Orbigny yn Ross Bay—llygoden gymaint ag elephant. Nid oedd y tir yn uchel uwch y môr, a rhedai cilvachau lawer o'r arvordir allanol. Nid oedd brinder dwr croyw chwaith. Er na vodolai y llynoedd mawrion presenol—Viedma, Santa Crws, &c., eto yr oedd pantleoedd corsiog, bas, yn britho y gwastadedd. Yn yr Andes chwydai llosg—vynyddoedd vwg a thân a malurion, a chludid y rhai olav hyn gan yr avonydd i'r pantleoedd a'r môr. Tebyg iawn hevyd y gwlawiai, ar adegau, luwchveydd llosg—ludw vel geir yn awr, ond yn amlach a thrymach y pryd hwnw. Parhaodd pethau vel hyn yn hirhir, hyd nod i ddaeareg. Yna daeth cyvnod arall yn lle mai mynyddoedd yr Andes yn unig oedd yn llosgi a lluchio, torai y chwydion allan yn nes i'r môr,—gymaint velly vel y gorchuddiwyd llawer rhanbarth gyda'r lava ulw hwnw ddeuai allan o'r