hono. Gwelais govnodiad o eiddo y Rhaglaw Fontana, am y llong "Union," gollasid yn agos i aber yr avon Chubut, gweddillion yr hon ymhen 5 mlynedd oeddynt 6 troedvedd yn uwch na lyvel uchav y môr. Yn Mhorth Aethwy aethai llong ar dân, a phan losgodd at vin y dwr, suddodd i'r gwaelod; mae y gweddillion hyny yn awr ddwy sgwar, 300 llath, oddiwrth van uchav y llanw. Velly, yr wyv yn tynu y casgliad, vod seildir yr Andes wedi ei ddyrchavu ar un cyvnod, nes bod awelon llaith y môr yn tewychu ar eu llethrau, gan beri llawer mwy o eira nag sydd yno yn awr: a'r canlyniad ydoedd—mwy o eira mwy nerthol vyth, a meusydd ia.
Mae'n amlwg vod dwyrain Patagonia dan y môr yn y cyvnod Eosin ond mai môr bas ydoedd a ddangosir gan y gwelyau wystrys mawrion adawodd yn fosylau, y rhai nad ydynt byth breswylwyr môr dwvn. Gyda'r fosylau wystrys ceir gweddillion Mamodion, yn dangos vod y gwaelod wedi codi yn dir, lle y trigodd creaduriaid mamaethol, nodwedd y rhai a brovant vod yr hinsawdd y pryd hwnw yn llawer tynerach nag yn awr—nad ysgubai gwyntoedd oerion o'r Andes vel yn awr, gan nad oedd y mynyddau hyny mor ucheled. Oddiwrth fosylau creaduriaid y cyvnod, hawdd barnu vod y tyviant y pryd hwnw yn rhonge a bras: llawer o bryvaid yn ymborth i'r dulogiad aruthrol a vodolent, y rhai yn eu tro a vywient ar lysiau. Vod yr arvordir yn vrith o gilvachau a brovir gan y mathau wystrys a hofant ddyvroedd llonydd. Mewn rhai manau y mae esgyrn Mamodion wedi eu haenu mor reolaidd a manwl, vel y gellir darllen eu bod wedi eu claddu gan ludw llosgval mewn dyvroedd tra llonydd. A chyda hwynt y mae gweddillion pysgod dwr croyw, yr hyn ddyry sail i veddwl vod llynoedd beision mawrion ar y gwastadeddau, ac avonydd arav yn cerdded rhyngddynt y rhai olav hyn yn dwyn gyda hwynt benglogau creaduriaid cevnol, haws i'w treiglo na'r aelodau. Yr oedd lludw llosgvalog yn nodwedd arbenig o'r Cyvnod Trydyddol, ac yn dra manteisiol i gladdu a fosylu unrhyw weddillion. Hysbysir vi gan Greenwood, idao ev unwaith yn ddiweddar, vod allan dan y vath gawodau o'r lludw hwn, ger Llyn Viedma, vel y bu ei gefylau am dri niwrnod yn methu cael blewyn o borva i'w vwyta. Mae yr haen lava ddiweddar yn union ar ben yr esgyrn Mamodiaid: a dan hyny y gwely gwyn fosylog trwchus o dosca—yn gap ar yr oll y mae tywod a graian cerygos yr arwyneb. A'r un mor amlwg yw vod y Cyvnod Ia ar ol y Cyvnod Lava, gan vod ol yr ia ar y lava.