Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/223

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adeg eu galw yn Borth Madryn wrth ddychwelyd o'r De. Ymgais y Llywodraeth yw rhedeg un ohonynt ddwy waith y mis, vel ag i gael danvon y mail bob pythevnos: golyga hyny, wrth gwrs, os collir cyvle y bydd raid aros yn Buenos Ayres vythevnos arall eithr i ddyvudwyr mae gan y Llywodraeth adeilad vawr i letya y rheiny yn ddi—dâl nes y cafont gyvle arall i'w mordaith.

Heblaw yr agerlongau hyn y mae hevyd longau hwylio lawer yn y dravnidiaeth i'r Wladva. Gan mai'r cynyrch mawr yw ŷd, a'r dravnidiaeth velly onid allvorio, bydd raid i amryw o'r llongau hwylio vyned i lawr i'r Wladva mewn balast, er mwyn dychwelyd gyda llwyth ŷd. Dangosir hyn yn eglur iawn wrth davleni y dollva a welir isod.


Mae'r DAITH I'R ANDES yn awr wedi d'od yn dravnidiaeth drevnus a hylaw, modd y gellir ei gwneud yn gyvleus a lled ddiymdroi—o wythnos i dair wythnos.