vanteision bydol yr ymvudiaeth bresenol wed'yn. Nid drwy adnoddau a chynlluniau Llywodraeth yn y byd y mae Saeson ac Amerigiaid wedi gallu sevydlu rhai o'u gwladvaoedd pwysicav, ond drwy egnion, a bod yn lew, vel yr awgrymid yn awr.
Wedi sevydliad y gymdeithas hono bu dadleuon brwd yn y drev a'r newydduron; eithr cyn hir ymddangosodd llythyr yn y Vaner oddiwrth y cenadwr Cymreig at Iuddewon Llundain, John Mills, yn cymhell gwlad Canaan vel lle priodol am Wladva Gymreig; yr hyn a gymeradwyai M. D. Jones, ond a wrthwynebai Cadvan Gwynedd. Yn 1858 symudodd Cadvan G. i Lerpwl i vyw, ac yn nechreu 1859 rhoddodd ddarlith ar Wladva Gymreig, yn yr ystafell o dan gapel Bedford Street; ac er na chavodd lawer o wrandawyr, cafodd ddau ddisgybl lynodd wrth y mudiad hyd y diwedd, sev Owen a John Edwards, Williamson Square: hwythau a gawsant atynt yn y man ddau vrawd o seiri (Jones, St. Paul's Square), a dau Griffith o velin North Shore; a'r ddau Williams o Birkenhead, heblaw Morris Humphreys, John Thomas, paentiwr, John Griffith, William Davies, a L. J., pan symudodd ei swyddva argrafu o Gaergybi i Lerpwl, yn 1860. Y bagad brodyr uchod a ymgynullent ar nosweithiau penodol i barlwr y ddeuvrawd yn Williamson Square, a Chadvan Gwynedd yn gohebu drostynt gyda phob pleidiwr i'r mudiad y gellid dd'od o hyd iddo, ac a danysgrivient at y treuliau yr elid iddynt. A hwn oedd y Pwyllgor Gwladvaol gwreiddiol. Anerchai H. H. Cadvan gynulliadau o Gymry yn y cylchoedd, a hysbysiadai y pwyllgor yn y newydduron a'r capeli Cymreig. Yr adeg hono y glaniodd Edwyn Roberts yn Liverpool—" vynd ei hunan i Batagonia," wedi blino yn disgwyl wrth areithwyr a newydduron: cavodd y Pwyllgor Gwladvaol avael arno, a threvnasant iddo roddi darlith ar Wladva Gymreig yn Hope Hall, Liverpool, y gauav hwnw: yntau a dariodd beth o'r amser hwnw gyda'i berthynasau tua Nanerch, &c., yn sir Flint, ac a ddaeth yno i adnabyddiaeth gyda'r marsiandwr glo yn Wigan—Robert James, vu wedi hyny mor fyddlon gyda'r mudiad. Daeth cynulliad da i wrando darlith E. R. (J. Roberts, Mersey View, yn y gadair). Ond nid oedd weledigaeth na chynllun eglur wedi eu cael eto. Nid ymddengys velly i'r "Gymdeithas Wladvaol" ymgorfori hyd y 9ved o Orfenav, 1861. Dodir yma, o gywreinrwydd, rai o'r covnodion sydd ar gael yn y llyvr gedwid gan H. H. Cadvan.
Hyd. 9.—Pob aelod i danysgrivio dim llai na 6ch. yr wythnos at y treuliau. 20: Enwyd D. Lewis, banc, a Robert James yn drysorwyr i'r vintai gyntav. Rhag. 18—Argrafu 2,000 o docynau casglu, a 1,000 o docynau aelodaeth: pawb a roddo 2s. 6c. ac uchod i gael tocyn aelodaeth, i'w talu'n ol gyda llog pan gyrhaeddo'r aelod i'r Wladva, a pe nad elai y gallai werthu ei docyn i'r sawl a elai. Dewiswyd R. James i gynrychioli y