bwyllgor Liverpool dynu allan gais at y Llywodraeth Arianin yn govyn am neillduad rhan o Patagonia i vod yn Wladva Gymreig. Gwnaed hyny drwy y travnoddwr, ac ymhen amser cyvaddas cavwyd y nodyn swyddol a ganlyn:—
"Awdurdodir chwi i vynegu hyrwyddwyr y mudiad am Wladva Gymreig na vydd unrhyw rwystr o du y Llywodraeth i ganiatau niver o leagues o dir, neu ryw rodd benodol o dir i bob teulu, os yw y gymdeithas o'r vath savle ag i warantu gwladychiad efeithiol y tir ganiateid iddi. Os yw y gymdeithas Gymreig hon, yn ol eich barn chwi, wedi ei furvio yn ovalus, ac yn meddu ar y moddion a'r sevydlogrwydd digonol i gario allan y cynygion a wnant, byddai well iddynt ddanvon prwyadon allan yma wedi eu hawdurdodi yn briodol, i orfen cytuno gyda'r Llywodraeth, ac hyd nod weled a dewis y manau y bwriedir sevydlu arnynt. Os amgen, ac y byddai raid travod y cytundeb a phob adran ohono drwy lythyrau, dichon na byddai hyny yn ol buddianau goreu y cytunwyr—evallai ar vanylion dibwys y rhai pe travodid ar lavar arbedai amser gwerthvawr i'r ddwy blaid."—G.R.
Wrth ystyried yr uchod, cyngorwn chwi, voneddigion, i vod yn egniol, acar unwaith furvio pwyllgor gweithiol cyvrivol, gweithgar, a dylanwadol, gyda pha un y bydd yn bleser genyv weithredu yn swyddogol vel travnoddwr, yn gystal ag vel pleidiwr diysgog i'r mudiad.—S. R. PHIBBS.
Medi 22 ysgrivenai'r gweinidog drachevn: "Nid oes dim yn y cynygion ymvudol ddanvonasoch na allai y Llywodraeth eu caniatau. Pe cyraeddai ymvudwyr yn vinteioedd, mwy neu lai niverog, a sevydlu eu hunain fel Gwladva ar ryw ranbarth, derbynid hwy yn groesawgar."
Wedi cael y vath wahoddiad i ddanvon prwyadon, gwnaeth y pwyllgor bob ymdrech i gyvarvod yr alwad. Danvonwyd H. H. Cadvan i gasglu drwy Ogledd Cymru, Edwyn Roberts drwy'r Deheudir, ac M. D. Jones ac L. J. drwy ranau o Geredigion. Cyhoeddwyd rhestr y tanysgrivion, a gwnaent ychydig dros £200. Dewiswyd Capt. Love Jones—Parry a L. J. i vyned yn brwyadon.