vernid yn angenrheidiol i gyvarvod yr ymvudwyr. Gwnaeth hyny yn anrhydeddus iawn, ac vel yr ysgrivenai 21 Medi, 1875,—10 mlynedd wed'yn,—wrth gyvlwyno ei gyvriv o £750 am hyny—" gwyddoch oni vuasai i mi fyn'd i'r costau uchod y buasai'r ymvudwyr wedi newynu, ac y tervynasai am y Wladva Gymreig.
Gyda dim ond addewid voel y Gweinidog yr helpai'r Llywodraeth yr ymvudwyr pan ddelent, wynebai L. J. yr anturiaeth envawr o barotoi a threvnu pethau at dderbyn yr ymvudwyr oeddynt i hwylio o Liverpool ddeuvis ar ei ol. Ni wyddai ond y nesav peth i ddim o iaith nac arverion y wlad, ac nid oedd ganddo vawr ddirnadaeth am helbulon llongwra. Nid oedd ganddo swydd na phenodiad; nid oedd ganddo arian na chredyd; nid oedd ond 28 oed, heb broviad ond y proviad bach Cymreig traferthus a chyvyng. Cychwynai (eve â'i briod ac Edwyn Roberts) ryw ddeuvis cyn yr amser i'r vintai gychwyn: ni wyddai am visoedd ddim o helyntion traferthus y cychwyn hwnw. Cawsai groesaw a charedigrwydd mawr yn Patagones pan oedd yno gyda Capt. Jones—Parry, gan y brodyr Harris oeddynt yn gweithio'r halen yn y cyfiniau hyny: hwy, a rhyw dri eraill, oedd yr unig rai yn y drev a vedrent Saesneg. Yr oedd J. H. Denby wedi hyrwyddo pethau yn rhyvedd hyd i Patagones: yno yr oedd yr anhawsderau yn dechreu; ond trwy y brodyr Harris a'u hewythr Yg. Leon cavwyd pob_hwylusdod ac anhebgorion. Ond y mae eu hetiveddion hwy o J. H. Denby vyth heb eu talu. Gwnaethpwyd dwy vordaith yn y "Juno" gydag aniveiliaid a chelvi a rheidiau o Patagones i Borth Madryn. Gan gychwyn o Buenos Ayres 10ved o Vai, cyraeddwyd Patagones y 24ain—diwrnod cyn y dy'gwyl vawr genedlaethol. Ar gredyd masnachwyr Patagones a llythyr Dr. Rawson, llwythwyd y llong o bob peth vernid yn rheitiol, gyda devaid ar y dec. Mehevn lav bu damwain ddivrivol i Mrs. L. Jones, drwy i gefyl bywiog a varchogai hi redeg ymaith a'i thavlu gan ei niweidio yn ddivrivol: eithr ar y 10ved barnai Dr. Humble ei bod allan o berygl, ac y gallai'r llong gydag L. J. ac Edwyn Roberts hwylio am Borth Madryn. Cyraeddwyd yr havan ar y 14eg, ac oddiwrth y dyvynion canlynol o'r dydd—lyvr ceir rhyw syniad anelwig am y traferthion:—Dod i angor haner dydd, a glanio'r cefylau a'r dynion a'r devaid: difyg dwr yma: gwneud corlanau, a threvnu i'r dynion aros ar y lan.—15: Cael trol i'r lan, ond dim dwr eto.—16: Cael y da corniog i'r lan a choed: y pryder mawr yw methu cael dwr, er vod y dynion allan bob dydd yn chwilio.—17: Cael y drol i gario ceryg tosca: diwrnod gwlawog, a hyny'n codi calon dyn.—18: Y devaid ar goll, ond a gaed erbyn y nos.—19: Wedi codi peth cysgod i'r dynion evo'r byrddau coed.—20: Y bobl yn gomedd gweithio os na chaent ragor o vwyd, er eu bod yn diva dwy ddavad bob dydd;