Wladva. Gobeithio yr ewch chwi yno'n ol yn vuan, ac os ewch, y gwnewch adael i amynedd gael ei pherfaith waith—bydd raid i chwi wrth hyny.—D. LL. JONES.
Patagones, Rhag. 6, 1866. Na ddigalonwch—mae hindda ar ol pob drycin. Mae tipyn o ddyryswch gyda'r Wladva yn awr. Ar ol yr helynt vawr a'ch gyrodd chwi ymaith, mae y rhan vwyav yn credu vod L. J. yn Wladvawr trwyadl: coelia W. Davies hyny yn awr: a choelia llawer mai brad vu yn eich gwthio ymaith drwy i Diaz chwythu y gwenwyn—anvad o ddyn oedd eve. Mae tua haner y bobl yn bendervynol o beidio symud; ac mae vy mryd inau ar y Wladva, ac yno y byddav gallwch vod yn siwr, tra gallav. Mae y teulu arlwyddaidd yn colli tir, ond yn glynu wrthym vel gelod. Bu ail etholiad yn ddiweddar, a bu newidiadau lawer—Mathews allan, a minau yn ysg. yn lle Thos. Ellis.—R. J. BERWYN.
Mae'n debyg y synwch pan ddywedav wrthych vod y Cymry sydd yn Patagones wedi danvon cais atom i'n symud oddiyma atynt hwy! Ö ran sport, darllenwyd y llythyr i'r vintai, a bu chwerthin mawr at y syniad i ni adael yma yr holl eiddo sydd genym yn wartheg a chefylau, a chelvi ac eiddo. Nyni, freeholders, vyned i ail ddechreu byw yn Patagones! Pendervynwyd ar i Mathews a minau ysgrivenu llythyr i ddweud mai folineb meddwl i ni symud oddiyma byth—pe na ddelai neb atom na llong vyth.—EDWYN ROBERTS.
Yn union ar warthav y llythyrau uchod y daethai'r " Denby" i Buenos Ayres, yn syth o'r Wladva, gyda dirprwywyr symud." Cavodd L. J. velly gyvle i glywed adroddiad o'r helyntion gan y rhan vwyav o'r rhai ddaethent i vynu; ac er nad oedd ganddo savle swyddogol i ddynesu at y Llywodraeth, beiddiodd vyned i weled Dr. Rawson, a chyvlwyno iddo y nodyn canlynol:
Buenos Ayres, Ionawr 30, 1867. Yr wyv newydd dderbyn llythyr oddiwrth M. D. Jones, Bala, hyrwyddwr mawr y Wladva Gymreig, dyvyniadau o ba un a gewch yn amgauedig, yn gobeithio'n ddivrivol na avlonyddir ac na symudir y sevydliad oddiar y Chupat. Yr oedd derbyn y llythyr hwn tua'r un dyddiau ag y cyraeddai yma y ddirprwyaeth o'r Chupat, i ovyn i'r Llywodraeth eu symud i rywle arall, yn ddigwyddiad mor gyd—darawiadol vel nas gallav lai nag edrych arno vel gwrthdystiad ysprydoledig yn erbyn y vath vwriad gan y gŵr sydd wedi aberthu cymaint dros y mudiad Yr wyv wedi gweled y ddirprwyaeth ddaeth i vynu, a chlywed eu cwynion a'u dadl. Ond nid ymddengys i mi vod y sevyllva yno mor anobeithiol ag i gyviawnhau rhoddi cam mor ddivrivol. Nid oedd y prawv a wnaed ar y tir a'r bywyd ond bychan a di—lun iawn; a byddai symud pobl wedi digaloni ac ymranu vel hyn yn eu rhoi mewn anhawsderau newyddion vyddai yn debyg o'u chwalu i bob cyveiriad, a thori i vynu y Wladva yr aberthwyd cymaint erddi, ac y disgwyliasid cymaint oddiwrthi. Sicrheir vi gan y rhai ddaethant