ac ystyried y mater yn ddivrivol. Velly y bu, a boddlonodd y ddau i ymgysegru i les y sevydlwyr yn y dyvodol, a dychwelyd eto yn y llong vach i'r Wladva, ac uno i berswadio y bobl i dderbyn cynyg Dr. Rawson, i wneud prawv ar y lle vlwyddyn arall. Erbyn i'r llong gyraedd Porth Madryn yr oedd agos yr oll o'r sevydlwyr wedi gadael y Camwy, & d'od drosodd yno i ddisgwyl llong i'w cyrchu ymaith vel yr oeddid wedi pendervynu. Ar y dechreu teimlent yn gynhyrvus iawn am y siomedigaeth rhai yn ystyvnig iawn am vynd i Patagones, a bu raid cyn hir drevnu i niver o'r rhai taerav gael myned yn y llong vach i weled y wlad y fordd hono, “a chael manylach telerau gan Aguirre a Murga, perchenogion y tiroedd yno. Pan ddaeth yr yspïwyr hyny yn ol, nid oedd eu hadroddiad hwythau yn unol na boddhaol, vel nad oedd dim am dani ond derbyn cynygion Dr. Rawson, a dychwelyd i'r Camwy."
Ond buasai aros gyda chant neu 120 o bobl gythruddedig, heb vod darpariad o reidiau ac ofer ar eu cyver, yn vwy o ryvyg nag ydoedd y vordaith o Buenos Ayres yn y llong vach vregus. Velly, trevnodd L. J. gyda masnachwyr Patagones, ar ei gyvrivoldeb ei hun, ac ar bwys addewid Dr. Rawson, i gael cyvlenwad o'r pethau mwyav rheitiol i vyned gyda hwy yn y llong vach pan ddychwelid eto i Borth Madryn.
"Yr oedd y gwladvawyr wedi bod yn Mhorth Madryn am tua deuvis—rai ohonynt wedi lladd a halltu eu haniveiliaid, dan y syniad mai over vyddai myn'd a daoedd mewn llongau i Patagones na Santa Fe; eraill yn mileinio i ddisgwyl “llong o rywle." Tra yr oeddys vel hyn ar draeth Porth Madryn yn ymryson a dadleu, a myn'd drwy wasgveuon yr ymbleidio, daethai yr Indiaid i lawr i'r Camwy vel arver, ac wrth weled y tai yno wedi eu gadael yn wag, rhoddasant dân ynddynt, yn ol arver Indiaid, er mwyn y divyrwch o'u gweled yn llosgi, vel pan ddychwelodd y gwladvawyr nid oedd yno ond murddynau moelion. Aeth y penau teuluoedd unwaith eto drosodd i'r dyfryn, o vlaen y gwragedd a'r plant, i wneud tipyn o drevn yn barod iddynt, a myned a'r clud a'r gweddill aniveiliaid drosodd, vel erbyn diwedd Awst yr oedd bron bawb wedi dychwelyd, ac yn eu cartrevi megys cyn yr ymadawiad. Wrth reswm yr oedd ganddynt fordd vwy dramwyol y tro hwn, wedi yr holl dravaelu a wnaethid i symud, ac wedi cyvarwyddo llawer â'r wlad ac â'r cefylau, vel na vu'r dychweliad y tro hwn mor vlin ac aniben ag oedd y dyvodiad cyntav. Gan mai y bwriad oedd aros am ryw naw mis, i gydfurvio â chais Dr. Rawson, ac yna symud i Santa Fe, nid oedd neb yn teimlo vod y chwalu vu ar bethau, a'r lladd vu ar aniveiliaid yn rhyw golled vawr—dipyn o anfantais am laeth a menyn ar y pryd, dyna'r oll.
"Yr oeddys erbyn hyny wedi colli 44 drwy ymadawiadau, 16