Pan gyraeddodd adroddiad y "Triton" i law L. J., eve a varnodd yn bryd danvon gair at y llys—genad Prydeinig:—
At J. Buckley Matthew, Ysw., C.B.—Yr wyv newydd gael copi o adroddiad R. G. Watson am y Wladva ar y Chupat, ac yn cyvlwyno i chwi vel hyn vy ngwrthdystiad yn erbyn amryw o'r camsyniadau wneir yn hwnw. Goddevwch i mi ddatgan, vel dinesydd Prydeinig, mai syn a govidus yw canvod swyddog llysol wedi camddeall mor ddybryd yr helyntion y danvonwyd ev i'w chwilio, ac yn mynegu barn mor bendant a dywediadau mor ddisail am bobl nad oedd yn deall eu hiaith na'u syniadau. Dyvynir tystiolaeth 8 o bobl am y "twyll" oedd yn yr hysbysleni Cymraeg am y Vintai Gyntav. Mae 4 o'r rhai hyny heb vedru Saesneg, 3 arall yn dra amherfaith, a'r llall oedd awdwr y ddeiseb fugiol i'r Falklands! Dywedir i Mr. Ford (eich blaenorydd yma) vynegu vod Dr. Rawson wedi beio L. J. yn bendant am y costau dibris yr aethai iddynt i dderbyn yr ymvudwyr. Ni ynganodd Dr. Rawson erioed wrthyv y vath beth. Wrth gwrs, govidiai ev, a govidiwn inau. Vy unig gostau i yn Buenos Ayres oedd am vwyd i'r ymvudwyr, a chartro y llong "Juno" i'w cludo i Patagones a Chupat, ac am yr hyn yr aethai Mr. Denby yn veichiau. Y "costau dibris" hyny oeddynt 1,000 o ddevaid, a'u cludiad, 300 sachaid o wenith, gwartheg, cefylau, coed, &c., a 3 mis o draul y llong, yr oll hwyrach yn £1,400. Dywed Mr Ford na addawsai y Llywodraeth ddim at dreuliau y sevydlu. Naddo. Ond yn mis Medi y vlwyddyn hono talodd y Llywodraeth £800 at y draul hono, a gwarantu tal am y devaid i Aguirre a Murga, a gwerth mil o bunau wedyn o aniveiliaid. Cydnabyddir ar bob llaw mai difyg mawr y sevydliad yw prinder aniveiliaid ac ofer: ond pob peth sydd ganddynt o vy "nhreuliau dibris "i y maent. Y gwenith ddygais i yno hevyd a gadwodd y Wladva'n vyw wedi colli y tymhor hau. Er y pryd hwnw mae y Llywodraeth wedi talu £2,000 o gymorth misol i'r sevydlwyr, am yr hyn nad oes vuwch na davad na chefyl nac oferyn wedi eu chwanegu. Pan ddywedai capten y "Fairy" vy mod i yn cadw "store," dylasai wybod mai anwiredd ydoedd, gan mai y Pwyllgor ovalai am y stor ac nid y vi. Y Mr. Parry y cyveirir ato mor gwta yw mab Lieut.—General Syr Love Jones—Parry. Buom yn y Chupat nid am ddiwrnod, ond am wythnos, ac yn New Bay am wythnos arall. Pan ddychwelsom ni roddasom adroddiad llachar yn y byd. Ni thynwyd biliau heb awdurdod: ond pan aeth pob peth bendramwnwgl dyrysodd pob trevniadau masnachol, a bu raid i'm dilynwyr wynebu canlyniadau eu cynllwynion hwy eu hunain. Parthed awgrymiadau personol yr adroddwr am danav vi, digon yw cyveirio at y faith vod Dr. Rawson a minau yn parhau i gyd-