Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Unodl Gyrch.

Er eidduned taer ddynion,
Er gwaedd mil, er gweddi Môn,[1]
Ni adfer Ner amser oes:
Rhed einioes, nid rhaid unon.


Proest Cadwynodl.

Duw a'i dug ef, dad y gân,
Cywir i'w ddydd carodd Ion,
Yn ngolau gwledd engyl glân;
Yntau a 'n sant: tawn a son.


Clogyrnach.

Hawdd y gorthaw ddifraw ddwyfron;
Erchyll celu archoll calon;
O raen oer enaid,
Diau bydd dibaid
Uchenaid a chwynion.

Gwawdodyn Byr.

Cair och o'i hunaw, cur achwynion,
A chaeth iawn alaeth i'w anwylion;
Parawdd i ddinawdd weinion—o'u colled,
Drem arw eu gweled, drom oer galon.

Dau Doddaid.

Pa golled—gwared gwirion—o delmau
Ac o hir dreisiau gwŷr rhy drawsion![2]
O frwd ymddygwd ddigon—y diangodd,
Gwen nef a gafodd gan Naf gyfion.


  1. Felly Horatius:—
    Labuntur anni; nec pietas moram
    Rugis et instanti senectre
    Afferet, indomitaeque morti."
  2. Hyn, a rhan fawr o'r hyn a ganlyn, sy 'n penodi at ryw ddamweiniau a ddigwyddasant iddo, ennyd cyn ei farw; ac nid rhaid i'w gydnabyddiaeth wrth nodau, amgea na'u coffadwriaeth eu hunain i'w hegluro.