nemawr amser i gwynaw oblegyd hyn, gan iddo gael yn fuan guradiaeth Northolt, plwyf tua ddeuddeng milldir o Lundain, lle y derbyniai 50 o gyflog, a byd ddigon esmwyth, meddai ef, oedd arno yno. Wedi tario am tua dwy flynedd yn Northolt, cafodd gynygiad i fyned allan i'r America tan addewid o dderbyn £200 yn y flwyddyn o gyflog; ac yn ngwyneb ei drallodau dygn a'i fynych siomedigaethau yn y wlad hon, tueddwyd ef i'w derbyn.
Yn Rhagfyr, 1757, ysgrifenodd anerch-lythyr cwynfanus at Gymdeithas y Cymrodorion yn Llundain i erfyn eu hachles i'w gynorthwyo ef a'i dylwyth i fyned i Williamsburgh, America. Eithr ofnir mai ofer fu ei apel, gan i Mr. Richard Morris, llywydd y Gymdeithas, ysgrifenu ar gefn yr anerch-lythyr, "Ÿ Parch. Goronwy Owen yn gofyn cymhorth y Cymrodorion i fyned i Virginia. Ond nid gwiw darllen y llythyr iddynt." Er hyny, y mae'n hysbys ddarfod i rai o'i gyfeillion dosturio'n haelionus wrtho. Cychwynodd ef a'i deulu, sef ei wraig a'i "dri Chymro Bach," o Lundain yn nechreu Rhagfyr, 1757, ar y daith hirfaith a pheryglus. Danfonodd lythyr oddiar "fwrdd y llong Trial yn Spithead," at ei hen gyfaill calonbur Mr. Richard Morris; ac nid oes ond un llythyr o'i eiddo ar gael ar ol y pryd hwnw, yr hwn a ysgrifenwyd o Brunswick (America), Gorph. 23, 1766—bron ddeng mlynedd er pan adawsai Loegr. Y mae edrych ar y dynan hwn, ac yn ei ben swrn o'r dalent fwyaf diledryw, yn gadael ei wlad hoff, fel ffoadur truenus yn dianc o afaelion ei drallod, yn cael ei alltudio oddiwrth ddyddanwch cyfeillion doeth, a theleidion gwlad ei enedigaeth, ag yr oedd holl serch ei enaid wedi ei glymu wrthynt, yn un o'r darluniau mwyaf torcalonus sydd yn nghyfrol fawr hanes adfyd meibion athrylith. Ie, myned bellach, bellach, o Fôn, "hyfrydwch pob rhyw frodir," man y buasai yn dyheu am sugno ei hawyr bur, a rhodio ei daear