Codi'r glicied wichiedig,
Deffro porthor y ddôr ddig;
Gan ffyrnig wŷn uffernol
Colwyn,[1] o fewn, cilio'n f' ol.
O'r barth yn cyfarth y caid,
Ail agerdd tân o'i lygaid,
Chwyrn udaw, och! oer nadu
Yn ddidor, wrth y ddôr ddu.
Yno clywn swrth drymswrth dro
Goffrom, rhwng cwsg ac effro,
Bram uchel, ac ni chelaf,
Erthwch fal yr hwch ar haf,
A beichiaw, a'm bwbachai,
Ac anog ci heriog, hai!
Llemais, â mawr ffull,[2] ymaith
Yn brudd, wedi difudd daith,
Ac anferth gorgi nerthol,
Llwyd, yn ymysgwyd o'm ol;
Cyrhaedd trwyn y clogwyni,
Perthfryn lle na'm canlyn ci,
Bwriais gyrch hyd Abererch,
(Llan yw hon wrth Afon Erch),
Cerdded rhag ofn gweled gwyll
Grebach (na bo'nd ei grybwyll!)
Neu gael i 'mafael â mi
Goeg Yspryd drygiawg aspri,
Tori ar draws tir i'r dref,
Ar ddidro, cyrhaedd adref,
Wrthyf fy hun eiddunaws[3]
Yn frau, i wellhau rhag llaw
Cefais o'm serch ddyferchwys
Oer fraw, ac nid af ar frys,
I'w chyfarch, ond arch, nid af,
Diowryd yw a dorraf,
Af unwaith i Eifionydd,
Unwaith? un dengwaith yn 'dydd;
Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/44
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon