Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gŵr o gyneddf anneddfawl,
Lledfegyn rhwng dyn a diawl;
Rhuo gan wyn rhegi wna,
A damio 'r holl fyd yma;
Dylaith i bawb lle delo,
Llawen i bawb lle na bo;
Ofnid ef fel Duw nefawl,
Ofnid ef yn fwy na Diawl,
Ni chewch wyth yn y chwe chant,
O chuchia ef na chachant;
Cofier nad oes neb cyfuwch
Nid oes radd nad yw SYR uwch;
Marchog oedd ef (merchyg Ddiawl);
Gorddwy (nid marchog urddawl),
Marchog gormail, cribddail cred,
Marchog y gwyr a'r merched.

Nis dorai was di-arab,
Na chrefydd, na ffydd, na phab,
Cod arian y cyw diras
Yw crefydd y cybydd cas;
A'i oreudduw oedd ruddaur,
A'i enaid oedd dyrnaid aur,
A'i fwnai yw nef wiwnod,
A'i Grist, yw ei gist a'i god,
A'i eglwys a'i holl oglud,
Cell yr aur a'r gloyw-aur glud,
A'i ddu bwrs oedd ei berson,
A mwynhad degwm yn hon;
A'i brif bechod yw tlodi,
Pob tlawd sydd gydfrawd i gi;
A'i burdan ymhob ardal,
Yw gwario mwn, ac aur mâl;
A'i uffern eithaf aphwys,
Rhoi ei aur mân gloywlan glwys;`

Dyna yt, Suddas' dânwr,
Un neu ddau o gastiau'r gwr