Gerdd Ion mewn tir estronol,
A'n mâd anwylwlad yn ol?
Ni bu, dref sorth, tan orthrech
Fy nhrem am Gaersalem sech;
Os hawdd yr anghofiais hi,
Del ammorth yn dâl imi,
Anhwylied fy neheulaw,
Parlys ar bob drygfys draw,
A'm tafod ffals gwamalsyth,
Ffered yn sych baeled byth.
Llyna ddiwael Israeliad!
Anwyl oedd i hwn ei wlad;
Daear Mon, dir[1] i minau
Yw, o chaf ffun, i'w choffau,
Mawr fy nghwynfan am dani,
Mal Seion yw Mon i mi;
O feinioes ni chaf fwyniant
Heb Fon, er na thôn na thant;
Nid oes trysor a ddorwn,
Na byd da 'n y bywyd hwn,
Na dail llwyn, na dillynion,
Na byw hwy, onibai hon.
Troi yma wnaf, tra myn Ner,
O'm hedfa oni'm hadfer,
Duw Nefol a'm deoles,
Duw'n rhwydd im', a llwydd a lles,
CRIST D'wysog, eneiniog Nef,
Cedrwydd,[2] a'm dyco adref.
Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/93
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon