ei hun mwyach rhag y gosb eithaf a ddarparwyd ar gyfair anffyddloniaid. Ond y mae'r penarglwydd yn drugarog yn gystal â chyfiawn, a threfnodd ffordd o ymwared i'r anufudd a'r aflan—ffordd i'w waredu rhag y lle poenus y soniasom amdano. Bodlonodd Mab y penarglwydd roddi iawn iddo dros gynifer ag a etholai ef o blith dynion i'w cadw i fywyd tragwyddol; ac felly y gwnaed cytundeb yn nhragwyddoldeb rhwng y ddau, yn Dad trugarog ac yn Fab caredig. Ni chollai'r Tad ddim wrth achub y rhai a etholasid, canys telid eu holl ddyled gan y Mab. Yn daledigaeth am ryddhad yr etholedigion rhoddai'r Mab ei fywyd ei hun. Gwisgai gnawd, a deuai'n ddyn fel y byddai'n abl i farw yn natur y dyn a bechodd. Digon yw ei aberth i fodloni holl ofynion cyfiawnder Duw, a chyfled ydyw â dyled yr holl etholedigion, a chyfled, efallai, a dyled eraill heblaw'r etholedigion. Nid yw Harris yn derbyn athrawiaeth John Wesley—farw o Grist dros bawb; ac nid yw chwaith yn cytuno â Whitefield pan ddysg hwnnw Wrthodedigaeth. O ran hynny, os myn neb wybod credo Harris yn fanylach a chywirach, darllened Golwg ar Deyrnas Crist, gan Williams, Pant-y-celyn.
Datguddia Dyddlyfrau Harris inni fwy eto nag a ddisgrifiasom o'i wir gredo. Synnir arno beunydd gan ras penarglwyddiaethol Duw a'i hetholodd ef o blith miliynau i'w achub o'r fflam dân yr oedd ef ynddi eisoes. Paham yr achubwyd ef? Nid oes gan reswm esboniad ar hynny, ac nid oes a ŵyr ddirgelion yr ewyllys ddwyfol. Eithr, er nad yw dirgelion yr ewyllys yn wybyddus, y mae'n dra hysbys na chyfrennir bywyd tragwyddol, hyd yn oed i'r etholedigion, onid ar delerau. Pa rai yw'r telerau? Ai trwy "wneuthur gweithredoedd," ai ynteu trwy ymgadw rhag "gwneuthur" y cyfranogir o'r bywyd didranc. Oddi yma y tarddodd rhai o ingoedd ysbrydol dyfnaf Harris—" gwneuthur," neu "ymgadw'n gwbl rhag gwneuthur." A thrachefn, pe gofynnem iddo, pa fodd y geill un a etholwyd ac a achubwyd bechu, pa ateb a roddai inni? Dywedai wrthym heb ddim crygni yn ei