Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Arglwydd wedi roi i mi y mis hwn yn neillduol fe gredech chwithau yn y fan, ond gadawaf bob peth yn bresenol fel y maent. Y mae yn debig eich bod chwi wedi clywed fod yna ychydig ddryswch wedi bod yn yr eglwys, ond y mae pob peth wedi ei gladdu a phawb yn disgwyl am Ddiwygiad.

Ysgrifenwch mor fuan ac y cewch ddim cyfle. Hyn. yn fyr ac aniben oddiwrth eich anwyl frawd,

Humphrey Jones.

Praw y llythyr uchod mai dirywio'n raddol a wnai Mr. Jones o ran cyflwr ei feddwl, a dengys hefyd mor anodd ydyw esbonio dyn yn ei gyflwr presennol ef. Yn ei eglurhad ar anawsterau Mr. Delta Davies, amlyga wybodaeth ysgrythurol helaeth a chywir, a rhydd iddo gyfarwyddiadau rhesymol ac addas. Eithr daw amhwylledd yn amlwg yn hysbysiadau pendant a phroffwydoliaethau ei esboniad ar yr "Oruchwyliaeth ryfedd, doeth a dyrus."

49, Terrace, Aberystwyth.
Medi 16, '59.

Anwyl Frawd,

Yr oeddwn i wedi rhoddi i fyny ddisgwyl am atebiad oddiwrthych os cryn amser, ond er fy syndod a'm gorfoledd dyma lythyr yn dyfod yn ddisymwth oddi wrthych. Nis gallwn wybod beth allai fod yn achos na ysgrifenech; ond pan ddarllenais eich llythyr cefais fy llwyr fodloni ar unwaith.

Yr ydych yn son yn eich llythyr eich bod chwi ar droiau yn neillduol o nervous a thrwy hyny a phethau eraill yn hynod o ofidus a thruenus. Anwyl Frawd, y mae yn hawdd genyf eich credu, oblegid yr wyf fi ac ugeiniau o'r cyfeillion yn gwybod am hyny drwy brofiad. O! mor aml y byddaf yn barod i ofyn, A oes y fath ofid a'm gofid i yr hwn a wnaethpwyd i mi"; ond eto byddaf ar ryw adegau yn teimlo yn bur foddlawn a dedwydd, ac yn gallu diolch am y chwerw fel y melus.